Bydd hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd dysgu ar gyfer staff iechyd a gofal yn dod yn orfodol ledled Cymru, yn dilyn gwaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gydag ymgyrchwyr lleol.
Mae teulu Paul Ridd - a fu farw yn Ysbyty Treforys ar ôl derbyn gofal gwael iawn - wedi gweithio gyda'r bwrdd iechyd i ddatblygu hyfforddiant staff a gwella gofal i gleifion eraill ag anableddau dysgu er 2009.
Mae Melanie Davies, prif nyrs ward Ysbyty Treforys, wedi bod yn allweddol i ddatblygiad yr hyfforddiant hwn.
Mae hi wedi gweithio’n ddiflino gyda brawd Mr Ridd, Jonathan a’i chwaer Jayne Nicholls i wella dealltwriaeth a sgiliau gweithwyr iechyd eraill i helpu pobl ag anableddau dysgu.
Ers 2010 mae Melanie wedi cynghori cydweithwyr, datblygu pecynnau gwybodaeth, cyflwyno hyfforddiant a datblygu rhwydwaith o hyrwyddwyr. Mae llawer o'r gwaith hwn wedi'i wneud yn ei hamser ei hun.
Nawr, bydd hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd dysgu yn cael ei gynnwys yn hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth gorfodol pob bwrdd iechyd.
Wrth siarad yn y Senedd, datgelodd Julie Morgan AC fod gwaith ar y gweill i ddatblygu fframwaith tair haen i ymgorffori'r hyfforddiant hwn yn GIG Cymru. O dan y rhaglen hon bydd yr holl staff yn cael hyfforddiant sylfaenol, gyda hyfforddiant mwy penodol i'r rheini sydd â chysylltiad dwysach â phobl ag anableddau dysgu.
Dywedodd Melanie: “Mae hwn yn gam enfawr ymlaen.
“Yn draddodiadol, nid yw ymwybyddiaeth anabledd dysgu wedi bod yn rhan o hyfforddiant cyffredinol nyrsys. Felly un o nodau ein gwaith gyda Sefydliad Paul Ridd fu mynd â'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu ledled y wlad.
“Bydd yr addewid hwn yn golygu bod staff ledled Cymru yn cael yr hyfforddiant a’r offer i helpu cleifion ag anableddau dysgu, fel y maent ym Mae Abertawe ar hyn o bryd.
“Byddant yn gwybod ble i fynd am gefnogaeth ac yn cael eu grymuso i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau bod cleifion ag anableddau dysgu yn cael y gofal gorau posibl.”
Dywedodd Gareth Howells, Cyfarwyddwr Nyrsio a Phrofiad Cleifion: “Mae Sefydliad Paul Ridd wedi gwneud gwaith rhyfeddol, ac rydym eisoes wedi gweld buddion gweithio’n agos ag ef i wella ymwybyddiaeth a hyfforddiant anableddau dysgu ym Mae Abertawe.
“Rydyn ni'n falch iawn ei fod nawr yn mynd i gael ei gymryd ledled Cymru ac rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i wella'r gofal rydyn ni'n ei ddarparu i bobl ag anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.