Mae tîm o nyrsys ardal Bae Abertawe ar fin ehangu, gan ei gwneud hi'n haws i gleifion dderbyn gofal gartref.
O fis Medi ymlaen, bydd llawer mwy o nyrsys ardal yn gweithio yng nghymunedau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Bydd buddsoddiad o £500,000 gan y bwrdd iechyd yn arwain at gynnydd o 11.5 aelod o staff band pump yn y gweithlu.
Mae nyrsys ardal yn darparu gwasanaeth gofal iechyd i bobl nad ydynt yn gallu ymweld â’r feddygfa neu glinigau cymunedol ac sydd angen gofal nyrsio, cyngor a chymorth oherwydd eu bod yn gaeth i’r tŷ yn barhaol neu dros dro.
Yn y llun: Paula Heycock (chwith) gyda nyrsys ardal Philippa Sampson, Charlotte Greenslade, Rachel Gist a Nicola Jones, a'r arweinydd tîm Kellie Jenkins.
Mae'r gwasanaeth nyrsio ardal yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn y gymuned ac ysbytai i sicrhau'r gofal gorau i gleifion.
Ei nod yw galluogi pobl i gadw eu hannibyniaeth a hunanofal lle bo modd.
Mae cael mwy o nyrsys ardal yn golygu y gall darpariaeth penwythnos a thu allan i oriau'r gwasanaeth ehangu, gan ganiatáu i fwy o gleifion gael eu rhyddhau o'r ysbyty yn gynt - neu eu cadw allan o'r ysbyty yn y lle cyntaf.
Dywedodd Paula Heycock, Pennaeth Nyrsio Grŵp Therapïau Cymunedol Sylfaenol y bwrdd iechyd: “Mae nyrsio ardal yn wasanaeth 24 awr, saith diwrnod yr wythnos.
“Trwy gynyddu ein gweithlu, byddwn yn gallu ehangu ein darpariaeth ar y penwythnos a’r tu allan i oriau, gan ddod ag argaeledd yn ystod y cyfnodau hyn hyd at 80 y cant.
“Ar hyn o bryd, mae gennym un pwynt mynediad o Ddydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 8yb a 5yp ond mae staff y tu allan i oriau a chleifion yn mynd drwy i’r switsfwrdd i gysylltu â’r gwasanaeth yn ystod oriau’r penwythnos neu gyfnodau y tu allan i oriau.
“Byddwn yn gallu cynnig gwasanaeth atgyfeirio saith diwrnod gyda nyrs brysbennu fel mynediad un pwynt felly bydd yn haws i staff gysylltu â nhw i atgyfeirio claf.
“Bydd y nyrs brysbennu yn gallu cael sgyrsiau gyda staff sydd am wneud atgyfeiriad ar Ddydd Sadwrn neu Ddydd Sul hefyd.
“Mae’n golygu y bydd staff yn gwybod sut i atgyfeirio cleifion at ein gwasanaeth bob amser, a fydd yn helpu i hwyluso rhyddhau cleifion yn gynt o’r ysbyty ac atal derbyniadau i’r ysbyty.”
Mae'r tîm nyrsio ardal yn cynnwys nyrsys ardal arbenigol, nyrsys staff cymunedol a gweithwyr cymorth gofal iechyd ag ystod eang o sgiliau.
Trwy ofalu am gleifion gartref, nod staff yw eu hatal rhag mynd i'r ysbyty neu weld meddyg teulu - sy'n helpu i leddfu'r pwysau ar y ddau leoliad gofal iechyd.
Yn ei dro, mae hefyd yn helpu i ryddhau gwelyau ysbyty i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.
Mae nyrsys ardal yn goruchwylio gofal cymhleth a diwedd oes yn y gymuned a all hefyd ganiatáu i gleifion ddychwelyd o'r ysbyty yn gynt gan y gall eu gofal barhau gartref.
“Mae'n wasanaeth eang ei ystod ac mae gan ein staff y wybodaeth a'r gallu i gynnig gofal cymhleth iawn yn y gymuned,” ychwanegodd Paula.
“Mae gennym ni berthynas dda gyda meddygon teulu a chartrefi gofal ac rydyn ni’n gweithio gyda nhw er mwyn i ni allu adnabod cleifion yn gynnar, er mwyn atal derbyniadau i’r ysbyty.
“Rydym hefyd yn cael cyfarfodydd dyddiol gyda’n cydweithwyr mewn gofal eilaidd i nodi cleifion y gallwn eu helpu i ryddhau o’r ysbyty.
“Os ydyn nhw’n dod o hyd i glaf sy’n dod i ddiwedd eu hoes, fe allwn ni helpu gyda’u rhyddhau fel bod modd gofalu amdanyn nhw gartref yn lle hynny.
“Gallwn gael gafael ar yr offer angenrheidiol, edrych ar eu meddyginiaeth a chysylltu â’u teuluoedd.
“Rydym am nodi cleifion sydd angen gofal yn gynt fel y gallwn hwyluso rhyddhau cynharach fel y gallant ddychwelyd adref i dderbyn eu gofal parhaus.”
Mae'r gwasanaeth wedi'i ad-drefnu'n ddiweddar felly yn lle gorfod teithio ar draws ardaloedd eang iawn, mae staff bellach yn gweithio mewn ardal lai.
Mae hyn yn golygu eu bod yn cael gweld mwy o gleifion y dydd.
Bydd recriwtio nyrsys lluosog i gefnogi'r ehangu parhaus yn helpu staff i ymateb i gleifion hyd yn oed yn gynt.
Ar hyn o bryd, mae nyrsys ardal yn cynnal tua 2,000 o ymweliadau â chleifion bob dydd.
Dywedodd Paula: “Mae ein newid sefydliadol diweddar wedi galluogi staff i ymateb i gleifion mewn ffordd fwy amserol.
“Mae capasiti cynyddol ein gwasanaeth yn gynllun hirdymor gan ein bod eisiau adeiladu mwy o wydnwch ynddo.
“Ar wahân i’n buddsoddiad, byddwn yn edrych ar ffyrdd eraill y gallwn greu capasiti o fewn y tîm.
“Yn y dyfodol rydym am edrych ar greu rolau mwy arbenigol a fydd yn helpu i wneud tîm mwy cadarn, cynaliadwy a fydd yn gallu diwallu anghenion newidiol ein poblogaeth.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.