Mae banc llaeth wedi’i sefydlu fel rhan o’r hwb cyntaf yng Nghymru i helpu babanod sâl neu gynamserol a, thros amser, mamau sy’n wynebu anawsterau bwydo.
Mae’r hwb banc llaeth newydd, sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Singleton, Abertawe, yn cyflenwi llaeth dynol i fabanod sy’n derbyn gofal yn yr ysbyty, gyda llawer o’r llaeth yn cael ei roi gan famau Cymru.
Gall llaeth rhoddwr helpu babanod sâl neu gynamserol i gefnogi eu bwydo, twf a datblygiad ac atal cymhlethdodau, tra hefyd yn cefnogi mamau sydd angen amser i sefydlu eu cyflenwad llaeth eu hunain.
Hyd yn hyn, roedd ysbytai yng Nghymru wedi derbyn llaeth rhoddwr yn uniongyrchol gan fanciau llaeth yn Lloegr.
Yn y llun uchod: Dr Natalie Shenker (chwith), a gyd-sefydlodd Hearts Milk Bank gyda Gillian Weaver (dde), gyda'r Athro Amy Brown o Brifysgol Abertawe
Wrth i’r hwb llaeth ddechrau gweithredu i’w gapasiti llawn, bydd babanod ledled de Cymru yn gallu cael llaeth o’r hwb yn Ysbyty Singleton, gan y bydd yn cyflenwi llaeth rhoddwr i fyrddau iechyd eraill de Cymru.
Bydd cael canolfan laeth yn lleol hefyd yn galluogi mwy o fenywod o Gymru i roi eu llaeth i helpu i gefnogi mamau a babanod sydd ei angen.
Taylor Pearson oedd y fam gyntaf i gynnig ei hun fel rhoddwr ar ôl rhoi genedigaeth i’w merch yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ym mis Ionawr 2021.
Penderfynodd y ddynes 29 oed, o Gaerdydd, roi gormodedd o laeth y fron i helpu mamau eraill a allai fod yn cael trafferth bwydo ar y fron.
“Ar ôl i fy merch gael ei geni y llynedd fe wnes i ddarganfod bod gen i gyflenwad gormodol o laeth y fron a oedd yn fwy nag oedd ei angen,” meddai.
“Gofynnais i staff yr ysbyty a oedd ganddynt unrhyw gyfleusterau banc llaeth ar ôl darllen amdano ar-lein a dywedwyd wrthyf nad oedd unrhyw beth yng Nghymru.
“Cysylltais â Hearts Milk Bank, ychydig i’r gogledd o Lundain, a ddywedodd wrthyf y bydd hwb yn agor yng Nghymru. Yn nes at yr amser fe wnaethon nhw gysylltu â mi a gofyn a oeddwn i eisiau rhoi o hyd a dywedais ydw.
“Doeddwn i ddim eisiau gwastraffu llaeth y fron. Rwy'n adnabod cryn dipyn o bobl sydd wedi cael babanod yn NICU (unedau gofal dwys newyddenedigol) a gwn y gall fod yn eithaf anodd cael eich cyflenwad i fwydo ar y fron, yn enwedig pan fyddwch wedi'ch gwahanu oddi wrth eich babi.
“Os yw pobl wir eisiau bwydo ar y fron ond yn cael trafferth, yna gall hyn helpu.”
Mae pob rhoddwr yn mynd trwy broses sgrinio, sy'n cynnwys holiaduron a phrofion gwaed i ddiystyru unrhyw heintiau.
Yn y llun: Y rhewgelloedd yn y ganolfan laeth yn Ysbyty Singleton
Yna maent yn darparu o leiaf dau litr o laeth dros 10 wythnos, sydd wedyn yn cael ei basteureiddio, cyn ei rewi a'i storio'n barod i'w roi i fabanod.
Ychwanegodd Taylor: “Mae’n rhoi mwy o opsiynau i deuluoedd sydd â’u calon ar laeth y fron i fwydo eu babi pan nad oes ganddyn nhw fynediad at laeth yw’r unig reswm na allan nhw wneud hynny.”
Dywedodd Helen James, metron ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol: “Gall bwydo llaeth y fron yn unig wella canlyniadau datblygu hirdymor ac mae llaeth rhoddwr yn aml yn cael ei ddefnyddio fel bwlch pontio tra bod llaethiad yn cael ei sefydlu.
“Mae’n gyfle gwych i Fae Abertawe ac yn fraint cael cynnal yr hwb hwn i gefnogi unedau newyddenedigol ledled Cymru.”
Roedd Beiciau Gwaed Cymru, elusen sy'n darparu gwasanaeth negesydd am ddim i'r GIG, wedi bod yn cludo llaeth rhoddwr o Loegr i Ysbyty Singleton ar gyfer babanod mewn angen yn flaenorol.
Bydd yr elusen yn parhau i ddosbarthu'r cyflenwadau i Abertawe ac i bob un o ranbarthau byrddau iechyd Cymru i'w gwneud hi'n haws i famau a babanod dderbyn y llaeth rhoddwr.
Dywedodd Dr Sujoy Banerjee, neonatolegydd ymgynghorol a chyfarwyddwr clinigol gwasanaethau plant a phobl ifanc: “Bydd y banc llaeth dynol cyntaf yng Nghymru yn cynnig adnodd amhrisiadwy ar gyfer gofalu am fabanod newydd-anedig cynamserol a sâl, gan atal cymhlethdodau, a gwella canlyniadau.
“Bydd yn rhoi mynediad teg a hawdd at laeth dynol ar gyfer gwasanaethau clinigol yn ne Cymru a bydd yn ei gwneud yn haws i famau sy’n llaetha roi eu llaeth gormodol er budd llawer o fabanod.
“Mae’r prosiect yn enghraifft wych o gydweithrediad cymdeithasol, gofal iechyd ac ymchwil a bydd yn codi ymwybyddiaeth a hybu bwydo ar y fron yn ein cymunedau.
“Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i gynnal y prosiect hwn.”
Mae'r hwb wedi'i lansio oherwydd ymchwil a chyllid gan Brifysgol Abertawe, a fydd yn astudio'r effaith y mae'n ei chael ar gefnogi teuluoedd.
Dywedodd yr Athro Amy Brown, cyfarwyddwr y ganolfan llaetha, bwydo babanod a chyfieithu ym Mhrifysgol Abertawe: “Roeddem yn falch iawn o fod wedi derbyn cyllid ymchwil gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i ddatblygu ein hymchwil bwydo babanod.
“Galluogodd rhan o’r cyllid hwn sefydlu a darparu’r hwb ochr yn ochr â rhaglen ymchwil i archwilio ei effaith o fewn yr ysbyty a’r gymuned.
“Yn y dyfodol, byddwn yn cynnal nifer o astudiaethau ymchwil i ddeall yn well sut y gall llaeth rhoddwr gefnogi teuluoedd gan gynnwys pan fydd babanod yn cael eu geni’n gynamserol ond hefyd pan na fydd bwydo ar y fron yn bosibl, megis pan fydd mam yn cael triniaeth canser.
“Mae gennym ni ddiddordeb arbennig mewn sut y gall llaeth rhoddwr gefnogi iechyd meddwl rhieni, trwy ei dderbyn ar gyfer babi neu o brofiadau mamau sy’n bwydo ar y fron yn gallu rhoi eu llaeth i gefnogi teuluoedd eraill.”
Cafodd y brifysgol gymorth i lansio’r hwb cyntaf yng Nghymru gan y Human Milk Foundation, elusen sy’n cefnogi rhieni i fwydo eu babanod â llaeth dynol.
Fel rhan o'i gwaith yn Imperial College i ymchwilio i effeithiau banciau llaeth dynol, cyd-sefydlodd Dr Natalie Shenker fanc llaeth dynol annibynnol, dielw cyntaf y DU, Hearts Milk Bank, a fydd yn rheoli'r hwb yn Abertawe.
Yn y llun: Ymgynghorydd newyddenedigol wedi ymddeol Dr Carol Sullivan yn agor y ganolfan laeth
“Nod yr elusen yw gwneud yn siŵr bod yna degwch cenedlaethol i deuluoedd dderbyn a rhoi llaeth,” meddai.
“Nid yw Cymru wedi cael gwasanaeth banc llaeth ei hun ers blynyddoedd lawer, ac mae hynny wedi effeithio’n wirioneddol ar faint o famau sy’n gallu rhoi, a sut y gall ysbytai ddefnyddio llaeth rhoddwr, os oes heriau o ran cael mynediad at gyflenwadau digonol pan fo angen.
“Rydym yn gwybod y gall fod yn beth gwych i famau allu rhoi eu llaeth i helpu teuluoedd eraill.
“Gall fod yn gwbl dorcalonnus i fenywod orfod taflu eu llaeth i ffwrdd, yn enwedig i famau â babanod yn yr ysbyty, a’r rhai nad yw eu babanod, yn anffodus, yn goroesi.”
Dywedodd Gareth Howells, cyfarwyddwr gweithredol nyrsio: “Mae pawb ym Mae Abertawe wedi ymrwymo i adeiladu gwasanaeth gwirioneddol deg lle gall teuluoedd gyfrannu a chael gafael ar laeth dynol rhoddwr.
“Rydym yn falch iawn o fod yn agor ein canolfan laeth yn Ysbyty Singleton.
“Rydym hefyd yn edrych ymlaen at helpu mwy o deuluoedd i dderbyn a rhoi llaeth dynol ac at dyfu’r hwb yn y blynyddoedd i ddod.”
I ddarganfod mwy am waith y Sefydliad Llaeth Dynol a Banc Llaeth Hearts ac i ddarganfod mwy am roi eich llaeth ewch i'w gwefan yma. Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai dolenni allanol ddim ar gael yn y Gymraeg.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.