Mae awdiolegydd wedi helpu i lunio clinigau newydd ar gyfer pobl â phroblemau clyw ar ôl edrych i weld pwy sydd eu hangen fwyaf.
Mae Jack Allum wedi derbyn gwobr genedlaethol am ei ymchwil i ble mae’r galw mwyaf am wasanaethau clyw ar draws Bae Abertawe.
Fel rhan o’i draethawd hir, penderfynodd ddadansoddi pa oedolion oedd yn defnyddio gwasanaethau awdioleg fwyaf dros gyfnod o dair blynedd.
Mae Jack (yn y llun) yn gweithio fel uwch ymarferydd awdioleg o fewn gofal sylfaenol.
Cynhaliodd yr ymchwil ochr yn ochr â'i swydd bob dydd fel rhan o'i radd meistr ym Mhrifysgol Manceinion.
Canfu mai gwasanaethau awdioleg oedd yn cael eu defnyddio fwyaf gan gleifion sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ledled Bae Abertawe, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD - Welsh Index of Multiple Deprivation).
WIMD yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd ardaloedd bach yng Nghymru. Fe'i cynlluniwyd i nodi ardaloedd bach lle ceir y crynodiadau uchaf o sawl math o amddifadedd.
Dywedodd Jack: “Edrychais ar yr holl oedolion a oedd wedi defnyddio gwasanaethau awdioleg rhwng 2017 a 2019.
“Bryd hynny, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg oedd y bwrdd iechyd felly roedd fy ymchwil hefyd yn cynnwys cleifion o Ben-y-bont ar Ogwr.
“Gan ddefnyddio data cleifion arferol, roeddwn yn gallu grwpio cleifion yn ôl oedran a lefel eu hamddifadedd gan ddefnyddio eu dyddiad geni a’u cod post.
“Mae fy nghanfyddiadau’n awgrymu bod colli clyw nid yn unig yn fwy cyffredin ond yn digwydd yn iau ymhlith pobl o gefndiroedd mwy difreintiedig.
“Pan gânt eu gweld mewn clinigau awdioleg, mae pobl o gefndiroedd mwy difreintiedig hefyd yn dangos arwyddion o golli clyw mwy difrifol.
“Ni all yr ymchwil nodi achos hynny mewn gwirionedd gan fod y gyfradd y mae pobl yn profi colled clyw yn cael ei dylanwadu gan lawer o ffactorau.
“Ond mae ein harsylw bod colli clyw yn arbennig o gyffredin ar oedrannau cynharach ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig yn gyson â thystiolaeth bod amddifadedd yn cyflymu’r broses heneiddio yn gyffredinol.”
Er bod Jack bob amser wedi bod â diddordeb mewn archwilio anghydraddoldebau iechyd, ysbrydolwyd ei ymchwil gan Dr Julian Tudor-Hart, a fu’n gweithio fel meddyg teulu yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.
“Fe luniodd y ‘gyfraith gofal gwrthgyfartal’ sy’n awgrymu bod argaeledd gofal meddygol neu gymdeithasol da yn tueddu i fod yn yr ardaloedd mwyaf cyfoethog, er bod gan y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yr anghenion iechyd mwyaf cymhleth,” ychwanegodd Jack.
“Er bod colli clyw yn gyffredin iawn ymhlith oedolion, ac amcangyfrifir bod gan ryw un o bob pump golled clyw o ryw fath, nid yw awdioleg yn ei chyfanrwydd yn bwnc sy’n cael ei ariannu’n dda ac sy’n cael ei ymchwilio.
“Cafodd yr astudiaeth ddiwethaf a roddodd ddangosydd o beth yw’r lefelau ‘normal’ o golled clyw ymhlith oedolion yn y DU ei wneud yn yr 1980au.
“Mae angen cenedlaethol i gwblhau ymchwil newydd i ddeall anghenion iechyd clyw’r boblogaeth oedolion nawr, yn enwedig o ran anghydraddoldebau iechyd clyw.”
Mae adran awdioleg Bae Abertawe wedi cael ei thrawsnewid yn sylweddol yn ddiweddar a fydd yn darparu mynediad arbenigol cyflymach i gleifion drwy ddarparu gwasanaethau awdioleg o fewn gofal sylfaenol.
Yn dilyn treialon llwyddiannus, gall cleifion â phroblemau clyw, tinitws neu gwyr problemus nawr ffonio system brysbennu ffôn eu meddygfa ac archebu'n uniongyrchol i weld un o'r timau awdioleg gofal sylfaenol mewn clinigau dynodedig.
Bu canlyniadau ymchwil Jack hyd yn oed o gymorth wrth gynllunio’r clinigau, sydd wedi’u gwasgaru ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Dywedodd: “Pan oeddem yn cynllunio’r ehangu roedd yn bwysig iawn edrych ar sut y gwnaethom ddefnyddio’r adnoddau oedd gennym. Roedd angen i ni wneud yn siŵr bod mynediad at y gwasanaeth yn deg, nid dim ond yn gyfartal.
“O ystyried yr hyn a ddangosodd fy ymchwil, mae gennym fwy o glinigau yn rhedeg yn yr ardaloedd y byddem yn disgwyl canfod mwy o achosion o golli clyw ac felly mwy o angen am wasanaethau iechyd clyw.”
Mae Jack hyd yn oed wedi cael ei gydnabod am ei waith ymchwil yng nghynhadledd flynyddol yr Academi Awdioleg Brydeinig ym Manceinion.
Er iddo wneud cais i ddechrau i gyflwyno ei waith ar arddangosfa poster, gofynnwyd iddo'n ddiweddarach a'i annog i'w gyflwyno fel cyflwyniad llafar yn lle hynny.
“Fe wnaethon nhw fy nghynnwys i fel un o’r siaradwyr ar ail ddiwrnod y gynhadledd a chyflwynais fy ymchwil a’m canfyddiadau yn y prif awditoriwm,” meddai.
“Ar ddiwrnod cyntaf y seremoni agoriadol, fe wnaethon nhw gyhoeddi bod gwobr newydd wedi’i chreu’r flwyddyn honno i anrhydeddu’r Athro David Baguley a fu farw’n sydyn ym mis Mehefin.
“Cafodd ddylanwad mawr iawn ym maes awdioleg, yn enwedig i gleifion â thinitws.
“Ar ôl egluro am y wobr newydd, ymddangosodd fy wyneb ar y sgrin a chefais wahoddiad ar y llwyfan i gasglu fy nhystysgrif. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod fy ngwaith wedi cael ei ystyried ar gyfer unrhyw wobrau.
“Cefais wybod wedyn mai’r meini prawf ar gyfer y wobr oedd ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Pan oeddent yn ystyried fy mhoster, a ddaeth yn gyflwyniad llafar i mi, fe wnaethant restru pob un o'r rhai a gyflwynwyd ar gyfer y flwyddyn honno a digwyddodd i fy un i sgorio uchaf.
“Roeddwn i’n wirioneddol ostyngedig. Roedd yn braf iawn rhoi’r gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud fel adran ar y map.”
Dywedodd Nicola Phillips, prif awdiolegydd: “Mae Jack yn rhan ddylanwadol o’r tîm awdioleg gofal sylfaenol.
“Mae ei ddiddordeb brwd mewn ymchwil yn gaffaeliad mawr i’n hadran ac fel y mae’r wobr wych hon yn ei ddangos, yn genedlaethol hefyd.
“Mae’n wych gweld Jack yn cael ei gydnabod ar y lefel hon.
“Rydym yn falch iawn bod Jack wedi gwneud ei hyfforddiant yma ym Mae Abertawe ac i symud ymlaen i fod yn uwch-ymarferydd.
“Mae’n ysbrydoliaeth fawr i’w holl gydweithwyr.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.