Mae cwmni Moondance Cancer Initiative wedi cydnabod unigolyn a thri thîm o Abertawe am eu cyflawniadau mewn gwasanaethau canser yng ngwobrau canser cyntaf Cymru.
Rhoddwyd clod arbennig i Dr Heather Wilkes am ei chyfraniad arbennig yn dod â Chanolfan Diagnosis Cyflym gyntaf Cymru i Fae Abertawe. Roedd hi ymhlith yr enillwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a enillodd gyfanswm o bedair gwobr am eu hymroddiad a’u gwaith dewr i wella gwasanaethau canser yng Nghymru.
Nod Gwobrau Canser Moondance yw dathlu a thynnu sylw at bobl ar draws y gwasanaeth iechyd a’i bartneriaid sydd wedi cynnal ac arloesi gwasanaethau canser er gwaetha’r amgylchiadau eithriadol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Wrth drafod y Wobr Cyflawniad Rhagorol, meddai Martin Bevan, arweinydd clinigol Gofal Eilaidd y Ganolfan Diagnosis Cyflym, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: “Heather yw arloeswr gwasanaethau Canolfannau Diagnosis Cyflym Cymru.
“Heb ei gwaith hi, fyddai’r Ganolfan gyntaf ddim wedi cael ei sefydlu’n lleol yn Abertawe, ac felly fyddai rhagor o ganolfannau ddim wedi cael eu sefydlu ledled Cymru.
“Mae angen penderfyniad ac egni i gyflawni buddion llawn prosiect fel y Canolfannau Diagnosis Cyflym yn llwyddiannus, a dyna werth cymeriadau fel Heather. Mae hi’n enillydd haeddiannol iawn.”
Meddai Dr Heather Wilkes: “Rydw i wedi fy llorio wrth dderbyn y clod yma, mae’n wych, ac mae’r gefnogaeth a’r gydnabyddiaeth rydyn ni wedi’i derbyn wedi bod yn anhygoel.
“Fe wnaethon ni sefydlu’r Ganolfan Diagnosis Cyflym gyntaf yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac roedd yn gymaint o lwyddiant fel ei bod yn rhy dda i beidio â rhannu a’i lledaenu i weddill Cymru, sef holl ddiben arloesi - rhannu budd prosiect llwyddiannus.
“Mae’n fraint cael fy nghydnabod am ddechrau rhywbeth, ond yn fwy na dim i fod wedi cael y cyfle i helpu pobl eraill i sylweddoli manteision y model yma, i helpu i’w cefnogi i wneud yr un peth, ac i fod yn rhan o dîm mor wych gyda’r Canolfannau Diagnosis Cyflym.”
Yn ymuno â Dr Heather Wilkes mae tîm Deg Awgrym Da o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sy’n gweithio ochr yn ochr â Rhwydwaith Canser Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a enillodd wobr Cyflawniad am wella profiad cleifion wedi iddyn nhw ddatblygu canllawiau ynghylch yr iaith a ddefnyddir ar gyfer prognosis canser.
Enillodd astudiaeth SYMPLIFY - sy’n cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Canolfan Ganser Felindre ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - y wobr Arloesi am ganfod a darparu diagnosis cynnar ar ôl datblygu prawf canfod amrywiaeth o ganserau’n gynnar.
Yr enillwyr eraill hefyd oedd Cydweithrediad Canser yr Ysgyfaint De Cymru, sy’n cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (llun ar y dde).
Cafodd yr enillwyr eleni eu dewis gan banel o feirniaid o arbenigwyr ac arweinwyr ym maes gofal iechyd gan gynnwys: Yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cymru; yr Athro Arglwydd Darzi, Cyfarwyddwr Sefydliad Arloesedd Iechyd Byd-eang Coleg Imperial; Claire Birchall, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Canser Cymru a'r Athro Jared Torkington, Cyfarwyddwr Clinigol Moondance Cancer Initiative.
Mae cwmni Moondance Cancer Initiative yn bodoli i ganfod, ariannu a hybu pobl wych a syniadau dewr er mwyn gosod Cymru ar flaen y gad o ran goroesi canser. Ar hyn o bryd, mae 18 o brosiectau gweithredol yn cael eu hariannu gan y fenter ledled Cymru gan gynnwys ehangu'r Ganolfan Diagnosis Cyflym ym Mae Abertawe a chyflwyno endosgopi trawsdrwynol.
Wrth sôn am Wobrau Canser Moondance, meddai Dr Megan Mathias, Prif Weithredwr cwmni Moondance Cancer Initiative: “Cafodd y gwobrau eu creu i ddathlu a diolch i’r bobl sydd wedi rhoi o’u hamser i wella ac arloesi llwybrau canfod, gwneud diagnosis a thrin canser ar draws gwasanaethau canser Cymru.
“Drwy daflu goleuni ar y bobl yma, rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni helpu i ysbrydoli atebion y dyfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn goroesi. Rydyn ni mor falch bod cymaint o bobl o bob maes gofal iechyd yng Nghymru wedi dod i ddathlu gyda ni.
“Mae’r gwobrau yma’n dangos bod gwelliant yn bosib ac yn digwydd ar draws gwasanaethau canser Cymru. Yn Moondance, rydyn ni’n canfod, yn ariannu ac yn annog pobl wych sydd â syniadau dewr i wella canlyniadau canser i Gymru.
“Os oes gennych chi, neu eich tîm, ddiddordeb mewn trafod syniad, cysylltwch â ni, bydden ni wrth ein boddau yn clywed gennych.”
Enillwyr Gwobrau Canser Moondance yw:
Cyflawniad
Ymateb i Covid
Llawdriniaeth ddewisol warchodedig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Gweithio gyda'n Gilydd
Cydweithrediad canser yr ysgyfaint De Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Gwella Profiad Cleifon
Tîm Deg Awgrym Da - Rhwydwaith Canser Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
a
Gofal Canser Tenovus
Ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â’r cyhoedd
Grŵp Ymgyrchu dros Ymwybyddiaeth o Ganser - Ymchwil Canser Cymru, Rhwydwaith Canser Cymru ac Ymchwil Canser y Deyrnas Unedig
Arloesi
Arloesi mewn canfod a darparu diagnosis cynnar
Astudiaeth SYMPLIFY - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Canolfan Ganser Felindre ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Arloesi ym maes triniaeth
Grŵp Oncoleg Genomeg Cymru Gyfan - Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan
a
Llwybr Cleifion Asesu Rhithwir - Felindre
Arloesi: Sector Annibynnol
Endosgopi trawsdrwynol - Olympus Medical, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Arloesi: Gweithlu
Fframwaith gwytnwch gweithlu Uwch-ymarferwyr Nyrsio oncoleg acíwt - Felindre
Arweinwyr Newydd
Rheoli a Gweinyddu
Dr Rachel Gemine, Driprwy Bennaeth Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Anfeddygol a Nyrsio
Jackie Pottle, Arweinydd Proffesiynau Perthynol i Iechyd Macmillan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Meddygol
Dr Hasan Haboubi, Gastroenterolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Cyfraniad Eithriadol
Dr Heather Wilkes, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.