Mae arbenigwr iechyd wedi rhybuddio y gallai lefelau'r coronafeirws yn ardal Bae Abertawe gyrraedd lefelau trychinebus yn fuan oni bai bod pobl yn dilyn y rheolau ar gadw pellter cymdeithasol dros y Nadolig.
Mae Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sef Dr Keith Reid, wedi rhybuddio oni bai bod pobl yn gwneud y peth iawn ac yn cadw pellter oddi wrth eraill gymaint â phosibl, y bydd y feirws yn tagu'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bydd risg y byddant yn cael eu gorlethu.
Mae gan Gastell-nedd Port Talbot lefelau uchel iawn o gyfraddau heintio COVID-19, sef y cyfraddau uchaf yng Nghymru, ac mae’r niferoedd yn codi’n gyflym iawn, ac mae Abertawe yn ei ddilyn yn agos. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, y gyfradd heintio a adroddwyd heddiw oedd 622 achos yr wythnos i bob 100,000 o bobl, ac yn Abertawe y nifer yw 446 achos yr wythnos i bob 100,000 o bobl. Adroddwyd 800 o achosion newydd dros y ddau ddiwrnod diwethaf yn ardal Bae Abertawe.
O’i gymharu â’r niferoedd ym mis Medi cyn y cyfnod clo llym, yn Abertawe roedd 56 achos yr wythnos i bob 100,000 o bobl, ac yng Nghastell-nedd Port Talbot roedd 38 achos yr wythnos i bob 100,000 o bobl.
Dywedodd Dr Reid: "Rydym ni mewn sefyllfa ddifrifol. Mae’r cyfraddau heintio’n uwch nag erioed, ac mae angen i ni i gyd chwarae ein rhan i reoli ar y sefyllfa mor gyflym ag y gallwn.
"Os bydd nifer yr heintiau’n parhau i gynyddu fel y mae, heb gyfnod clo arall cyn y Nadolig, bydd y system leol yn cael ei gorlethu."
"Dw i ddim eisiau sefyll yma o fewn y pythefnos nesaf yn dweud nad ydym ni’n gallu rheoli’r feirws, a bod pobl yn marw’n ddiangen, ac ni all gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ymdopi rhagor.
"Mae’n beth mawr i ofyn adeg yma’r flwyddyn, ac rwy’n deall ein bod ni i gyd eisiau bod gyda’n ffrindiau a’n teuluoedd. Ond rwy’n gofyn – ar ran meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd sydd wedi bod dan lawer o bwysau erbyn hyn – i chi stopio a meddwl.
"Meddyliwch am yr hyn sydd angen i chi ei wneud yn hytrach na’r hyn rydych chi eisiau ei wneud. Mae’r brechlyn ar ei ffordd. Ond nid i'r rhan fwyaf ohonom ni. Mae angen i ni wneud y peth iawn dros y Nadolig, sef dilyn y rheolau pellhau cymdeithasol, ac aros yn ddiogel.
"Mae gennym ni’r cyfle i ddiogelu ein hun rhag trychineb bosibl. Ond mae gennym ni i gyd rôl i'w chwarae."
Rhwng Tachwedd 25 a Rhagfyr 1, 2020, cofnodwyd 1,674 o achosion newydd o Covid-19 ym Mae Abertawe – 711 yng Nghastell-nedd Port Talbot a 960 yn Abertawe.
Dywedodd Dr Reid ei bod yn amlwg mai'r sbardun y tu ôl i'r cynnydd yn y niferoedd yw bod pobl yn cymysgu ag eraill gartref, yn y stryd, yn y gwaith gyda ffrindiau a dieithriaid. Am y 48 awr gyntaf cyn i'r symptomau ddod i'r amlwg, nid yw pobl hyd yn oed yn gwybod eu bod wedi'u heintio heb sôn am drosglwyddo’r feirws i'r bobl y maen nhw'n eu caru.
Dywedodd: "Oni bai bod y trosglwyddo cymunedol hwn yn gostwng yn sylweddol, byddwn ni mewn sefyllfa ddifrifol iawn erbyn mis Ionawr oherwydd cynnydd mawr mewn achosion o Covid a derbyniadau i'r ysbyty.
Eisoes mae'r bwrdd iechyd ochr yn ochr â chynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cymryd camau i geisio atal y cornafeirws rhag lledaenu a cheisio rheoli effaith heintiau Covid-19 ar ôl y Nadolig.
Mae cyfarwyddwyr Gofal Cymdeithasol yn y Cynghorau Sir yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd. Dywedodd David Howes, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Abertawe: "Mae'r niferoedd cynyddol sy’n cael eu heintio yn y gymuned yn peri pryder mawr, ac mae'r galw am wasanaethau ysbytai a chymunedol bellach yn tyfu’n fwy na'r adnoddau sydd ar gael i ni.
"Mae ein timau wedi gwneud gwaith anhygoel ers misoedd lawer. Ond rydym yn delio â gweithlu sydd wedi'i leihau a’i ymestyn ac sy’n flinedig, nid yn unig yn ein hysbytai, ond mewn lleoliadau cymunedol hefyd. Rydyn ni’n ystyried cwtogi ar wasanaethau mewn rhai meysydd, gan gyflwyno newidiadau nad oes neb am eu gwneud."
Dywedodd Andrew Jarret, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Castell-nedd Port Talbot: "Bydd pobl sy'n derbyn cymorth yn eu cartrefi eu hunain ar hyn o bryd, neu mewn cartref gofal, yn cael eu heffeithio gan y newidiadau y bydd angen i ni eu gwneud gan y bydd adnoddau'n cael eu hailgyfeirio i ofalu am y rhai mwyaf anghenus.
"Y realiti anodd yw, os byddwn ni’n dal i weld nifer yr achosion o Covid-19 yn parhau i godi mor gyflym ag y maen nhw nawr ar ddechrau'r Flwyddyn Newydd, yna bydd gwasanaethau'n ei chael hi'n anodd ymateb.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Mae'r rhan fwyaf o bobl yn synhwyrol ac yn cadw at y rheolau drwy gadw pellter cymdeithasol, diheintio eu dwylo a gwisgo mygydau pan fo hynny'n addas.
"Ond dim ond lleiafrif sydd ei angen i anwybyddu'r canllawiau ac arwain at y coronafeirws yn lledu. Mae'n rhaid i ni i gyd dynnu at ein gilydd ac ymwrthod â'r demtasiwn i gymdeithasu gan y gallai gwneud hynny roi ein nyrsys a'n meddygon mewn perygl ac arwain at sefyllfa lle mae ysbytai a gwasanaethau iechyd yn cael eu gorlethu."
Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: "Rydyn ni mewn cyfnod pryderus iawn. Dros y naw mis diwethaf mae pobl, busnesau, ffrindiau a dieithriaid wedi dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd mewn ffyrdd anhygoel.
Bydd eleni'n cael ei hadnabod fel blwyddyn Covid-19. Ond hefyd, 2020 fydd y flwyddyn lle rydyn ni i gyd wedi gweld ysbryd cymunedol a charedigrwydd a gofal yn gwneud gwahaniaeth.
"Er mwyn achub bywydau a diogelu'r GIG mae angen i ni, unwaith eto, wneud y peth iawn. Cadwch yn ddiogel a chadwch bellter cymdeithasol dros y Nadolig."
-DIWEDD-
Nodyn i olygyddion: Cyhoeddir y datganiad hwn i'r wasg ar ran Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.