Mae timau arbenigol wedi cydweithio i greu pecynnau llesiant ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl risg isel i helpu i gadw eu hymennydd yn actif.
Mae'r pecyn yn ganlyniad cydweithrediad rhwng y Tîm Seiciatreg Cyswllt a Thîm Therapi Galwedigaethol yr Adran Achosion Brys/ Gwasanaeth Asesu Pobl Hŷn.
Mae ei lansiad yn cyd-daro ag Awst Actif - ymgyrch bwrdd iechyd a gynlluniwyd i annog cleifion, staff a'r cyhoedd i fabwysiadu ffordd o fyw egnïol a chymryd camau bach tuag at ddyfodol iachach a mwy bywiog.
Dan arweiniad Alex Perrins, therapydd galwedigaethol o fewn Tîm Seiciatreg Cyswllt Ysbyty Treforys, mae’r pecyn yn mynd i’r afael â’r ffaith ei bod yr un mor bwysig i ymarfer yr ymennydd ag ydyw i’r corff.
Bydd staff therapi galwedigaethol neu staff nyrsio o fewn y ddau dîm yn darparu pecyn i bobl lle bo'n briodol ar ôl asesiad.
Dywedodd Alex, “Mae'n becyn llesiant sy'n cynnwys technegau sylfaenu y gellir eu defnyddio tra yn yr ysbyty.
“Gyda mis Awst Actif mae wedi disgyn ar yr amser iawn.
“Sbyliad gwybyddol yw hwn yn bennaf ac mae'n cadw'r meddwl yn actif.
“Yn gymaint â bod pawb yn canolbwyntio ar yr ochr gorfforol o aros yn actif, yn feddyliol, er ein lles ein hunain, mae angen i ni aros yn actif hefyd.”
Mae'r pecyn yn cynnwys detholiad o weithgareddau lliwio a phosau.
Dywedodd Alex: “Mae’n cynnwys lliwio ymwybyddiaeth ofalgar, Suduko, croeseiriau, a chwileiriau ynghyd â rhifau cyswllt defnyddiol yn y gymuned. Mae hefyd yn rhestru apiau defnyddiol y gall cleifion eu defnyddio fel Calm a Headspace.
“Prif nod y pecyn yw defnyddio technegau tynnu sylw i gefnogi’r claf tra ei fod yn aros am asesiad os yw’n teimlo’n bryderus neu’n nerfus.
“Mae hefyd yn lleihau hwyliau isel ac yn rhoi technegau tynnu sylw pobl os ydyn nhw’n teimlo’n bryderus yn yr ysbyty oherwydd yr amgylchedd.”
Dywedodd Alex fod yr adborth cychwynnol wedi bod yn galonogol.
Meddai: “Maen nhw’n cael eu hargraffu mewn llyfryn hyfryd gan ein Hadran Weinyddol Cyswllt Seiciatrig, felly ni fydd y claf yn colli dim o’r dalennau.
“Mae’r adborth gan staff nyrsio wedi bod yn wych. Yn enwedig yn yr Uned Gofal Dwys, lle maent wedi canfod bod y pecynnau o fudd i gefnogi adferiad cleifion.
“Mae wedi cael ei gyflwyno ar draws y pedwar safle. Ble bynnag mae’r claf, byddwn yn darparu pecyn os teimlwn ei fod yn briodol iddo.”
Dywedodd Heidi Fox, Therapydd Galwedigaethol Arweiniol, Iechyd Meddwl Pobl Hŷn: “Hoffwn ddiolch i Alex am ei holl waith caled yn datblygu’r pecynnau llesiant ac i’r staff seiciatreg cyswllt a thimau amlddisgyblaethol ysbytai ehangach am gyflwyno’r pecynnau ble bynnag y maent angen.
“Mae hon yn fenter i’w chroesawu i unigolion sy’n profi symptomau iechyd meddwl, gyda’r nod o gefnogi hunanreolaeth a’u lles cyffredinol tra byddant yn aros am asesiad a thriniaeth.
“Rwy’n edrych ymlaen at gael adborth wrth gleifion, gofalwyr a staff ynghylch sut y gallwn barhau i ddatblygu’r adnodd hwn ymhellach.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.