Bydd gwasanaeth nyrsio'r ysgol yn ymweld ag ysgol eich plentyn i roi brechiadau arferol a'r brechlyn ffliw tymhorol.
Er mwyn darparu'r amddiffyniad mwyaf posibl, mae'n bwysig bod plant a phobl ifanc yn cael eu brechiadau ar amser ac yn cwblhau'r cwrs pan fydd angen mwy nag un dos.
Anfonir y ffurflen ganiatâd at rieni a gofalwyr pan fyddwch yn derbyn y pecyn gwybodaeth. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi dychwelyd ffurflen ganiatâd eich plentyn i'r ysgol, neu drwy'r ap e-ganiatâd ar gyfer ffliw.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am frechiadau ysgol, neu os ydych wedi colli eich ffurflen ganiatâd, ffoniwch y gwasanaeth nyrsio ysgol ar 01639 682601.
Os ydych chi'n meddwl bod eich plentyn neu'ch plentyn yn ei arddegau wedi methu unrhyw frechiadau plentyndod, cysylltwch â'u Meddygfa, a threfnwch apwyntiad, os oes angen, i'w hamddiffyn.
Mae'r amserlen imiwneiddio plant wedi'i chynllunio i ddarparu'r amddiffyniad mwyaf posibl ac mae'n bwysig bod pobl ifanc yn cwblhau cyrsiau, er mwyn cael amddiffyniad gydol oes. Mae brechiadau plentyndod arferol yn hynod effeithiol, yn ddiogel ac yn rhad ac am ddim.
Newydd i Gymru? Os ydych chi a'ch plentyn/plant wedi symud i Gymru o wlad arall, gwnewch yn siŵr bod eich plentyn/plant wedi cael eu brechu yn unol ag amserlen Cymru. Gall amseriadau imiwneiddio plant amrywio rhwng gwledydd ac efallai y bydd angen dos ychwanegol o rai brechiadau ar eich plentyn/plant i'w sicrhau eu bod yn unol â'n hamserlen ni a sicrhau bod ganddynt yr amddiffyniad mwyaf posibl. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Nyrsio Ysgol ar 01639 862801 neu â'ch meddygfa.
Dilynwch y ddolen hon i wefan y GIG am ragor o wybodaeth am imiwneiddio a brechiadau.
Dilynwch y ddolen hon i'r amserlen imiwneiddio arferol yng Nghymru ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.