Eagle Taxis – 01639 635656 (24 awr)
Davey’s & Amber Taxis – 01639 633333 (24 awr)
Tacsis Castell-nedd - 01639 630046 (24 awr)
Dilynwch y ddolen ym i wasanaeth bws lleol sy'n cael ei redeg gan First Cymru.
Mae'r safle bws gyferbyn â'r fynedfa i Ysbyty Tonna.
Llwybr bws rhwng Ysbyty Tonna a Gorsaf Fysiau Castell-nedd (Gerddi Victoria), Gwasanaeth X7 - yn rhedeg bob 2 awr rhwng 7:25 am a 5:25 pm
Llwybr Bws rhwng Gorsaf Fysiau Castell-nedd (Gerddi Victoria) ac Ysbyty Tonna, Gwasanaeth X7 - yn rhedeg bob 2 awr rhwng 8:02 am a 6:02 pm
Mae gorsaf reilffordd Castell-nedd tua phum munud ar droed o Orsaf Fysiau Castell-nedd ac mae 2.8 milltir o Uned Gobaith.
Spar - cerdded pum munud i lawr yr allt.
Mae cyfleusterau ar y safle i ymwelwyr yn gyfyngedig. Nid oes caffeteria ar y safle ar hyn o bryd, fodd bynnag mae croeso mawr i ymwelwyr ddod â'u bwyd a'u diodydd eu hunain.
Tafarn a Bwyty Whittington Arms: Dilynwch y ddolen yma i wefan y Whittington Arms sy'n 10 munud ar droed neu dau funud mewn car.
Tesco (3.4 milltir) a Morrisons (2.5 milltir) o Uned Gobaith. Y ddau â gorsafoedd petrol.
Mae gan ganol tref Castell-nedd lawer o siopau gan gynnwys Boots, Wilko, WHSmith. Mae gan Castell-nedd farchnad hanesyddol sydd wedi bod yn masnachu ers 1837 gyda llawer o fasnachwyr a sefydliadau bwyd. Mae gan ganol tref Castell-nedd lawer o gaffis, tafarndai a lleoedd tecawê.
Pob un o fewn 15 munud yn gyrru o Ysbyty Tonna:
Gerddi Victoria:
Wedi'i leoli drws nesaf i Orsaf Fysiau Castell-nedd mae'r gerddi yn lle braf i ymlacio a cherdded o gwmpas (os yw'r tywydd yn caniatáu) gyda gwelyau blodau wedi'u cynnal a'u cadw'n dda.
Parc Gnoll: Dilynwch y ddolen hon i wefan Parc Gnoll
Mae mynediad i Barc Gnoll am ddim ond codir tâl am barcio. Caffi, toiledau, ardaloedd chwarae i blant a theithiau cerdded coetir.
Rhaeadr Aberdulais: Dilynwch y ddolen hon i wefan y 'National Trust'.
Mae'r 'National Trust' yn rhedeg safle hanesyddol am waith tun gyda rhaeadrau syfrdanol
Adfeilion Abaty Castell-nedd: Dilynwch y ddolen hon i wefan Cadw.
Sefydlwyd safle Cadw ym 1130. Mynediad am ddim gyda theithiau cerdded heddychlon o amgylch adfeilion.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.