Neidio i'r prif gynnwy

Mwynderau Lleol

Tacsis

Eagle Taxis – 01639 635656 (24 awr)

Davey’s & Amber Taxis – 01639 633333 (24 awr)

Tacsis Castell-nedd - 01639 630046 (24 awr)

Bysiau

Dilynwch y ddolen ym i wasanaeth bws lleol sy'n cael ei redeg gan First Cymru.

Mae'r safle bws gyferbyn â'r fynedfa i Ysbyty Tonna.

Llwybr bws rhwng Ysbyty Tonna a Gorsaf Fysiau Castell-nedd (Gerddi Victoria), Gwasanaeth X7 - yn rhedeg bob 2 awr rhwng 7:25 am a 5:25 pm

Llwybr Bws rhwng Gorsaf Fysiau Castell-nedd (Gerddi Victoria) ac Ysbyty Tonna, Gwasanaeth X7 - yn rhedeg bob 2 awr rhwng 8:02 am a 6:02 pm

Trenau

Mae gorsaf reilffordd Castell-nedd tua phum munud ar droed o Orsaf Fysiau Castell-nedd ac mae 2.8 milltir o Uned Gobaith.

Siopau yn Tonna

Spar - cerdded pum munud i lawr yr allt.

Lleoedd i fwyta yn Tonna

Siop Pant Y Coed yn ysbyty Tonna, sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr lleol.

Ar agor Llun i Gwener 11am - 3pm. Sadwrn i Sul 2pm - 4pm

Tafarn a Bwyty Whittington Arms: Dilynwch y ddolen yma i wefan y Whittington Arms sy'n 10 munud ar droed neu dau funud mewn car.

Archfarchnadoedd yng Nghastell-nedd

Tesco (3.4 milltir) a Morrisons (2.5 milltir) o Uned Gobaith. Y ddau â gorsafoedd petrol.

Siopau yng Nghastell-nedd

Mae gan ganol tref Castell-nedd lawer o siopau gan gynnwys Boots, Wilko, WHSmith. Mae gan Castell-nedd farchnad hanesyddol sydd wedi bod yn masnachu ers 1837 gyda llawer o fasnachwyr a sefydliadau bwyd. Mae gan ganol tref Castell-nedd lawer o gaffis, tafarndai a lleoedd tecawê.

Lleoedd i ymweld â nhw yn yr ardal leol

Pob un o fewn 15 munud yn gyrru o Ysbyty Tonna:

Gerddi Victoria:

Wedi'i leoli drws nesaf i Orsaf Fysiau Castell-nedd mae'r gerddi yn lle braf i ymlacio a cherdded o gwmpas (os yw'r tywydd yn caniatáu) gyda gwelyau blodau wedi'u cynnal a'u cadw'n dda.

Parc Gnoll: Dilynwch y ddolen hon i wefan Parc Gnoll

Mae mynediad i Barc Gnoll am ddim ond codir tâl am barcio. Caffi, toiledau, ardaloedd chwarae i blant a theithiau cerdded coetir.

Rhaeadr Aberdulais: Dilynwch y ddolen hon i wefan y 'National Trust'. 

Mae'r 'National Trust' yn rhedeg safle hanesyddol am waith tun gyda rhaeadrau syfrdanol

Adfeilion Abaty Castell-nedd: Dilynwch y ddolen hon i wefan Cadw.

Sefydlwyd safle Cadw ym 1130. Mynediad am ddim gyda theithiau cerdded heddychlon o amgylch adfeilion.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.