Neidio i'r prif gynnwy

Sgiliau maeth

Mae bwyta diet iach a chytbwys yn rhan bwysig o gynnal iechyd da, a gall eich helpu i deimlo eich gorau.

Mae hyn yn golygu bwyta amrywiaeth eang o fwydydd yn y cyfrannau cywir, a bwyta'r swm cywir o fwyd a diod i gyflawni a chynnal pwysau corff iach.

Sgiliau Maeth am Oes®  yn rhaglen Cymru gyfan sydd wedi’i dylunio i arfogi pobl ledled Cymru i gael y sgiliau, y cyfle a’r hyder i gael mynediad at fwyd iach, fforddiadwy a chynaliadwy iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd, a’u cymunedau.

Dilynwch y ddolen hon i dudalen Sgiliau Maeth am Oes ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.