Neidio i'r prif gynnwy

Beichiogrwydd heb ei gynllunio? Ewch i'n Gwasanaeth Cynghori ar Feichiogrwydd

Os ydych chi'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn cysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori ar Feichiogrwydd (Pregnancy Advisory Service), nodwch nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn darparu'r gwasanaeth hwn i gleifion Pen-y-bont ar Ogwr mwyach. Cysylltwch â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn uniongyrchol ar 01685 728497 i gael cyngor, cymorth a chyfeiriadau.

Mae llawer o fenywod yn wynebu beichiogrwydd heb ei gynllunio ac yn ei chael hi'n anodd gwneud penderfyniad ynghylch beth i'w wneud.

Bydd ein Gwasanaeth Cynghori ar Beichiogrwydd yn eich helpu a'ch cefnogi i wneud penderfyniad, boed hynny i gadw'r babi, dewis mabwysiadu neu erthyliad (terfynu beichiogrwydd).

I gael mynediad at y gwasanaeth cynghori ar feichiogrwydd, dilynwch y ddolen hon i'n ffurflen ar-lein.

Mae gwybodaeth am ein Gwasanaeth Cynghori ar Beichiogrwydd ar gael yma.

Ewch i wybodaeth am Derfynu Beichiogrwydd yn Feddygol yn Gynnar Gartref.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.