Neidio i'r prif gynnwy

Sut alla i gael gafael ar eiriolwyr? A ddylen ddod ar y ward?

Mae eiriolwyr annibynnol yn cael eu dosbarthu fel gweithwyr allweddol ac, o'r herwydd, mae gwasanaethau eiriolaeth yn dal i weithredu ym mhob un o'r lleoliadau arferol lle mae pobl yn derbyn cefnogaeth gan wasanaethau iechyd a gofal. Bydd eiriolwyr yn cynnig ystod o gefnogaeth mewn ffyrdd creadigol i gynnal rheolau pellhau cymdeithasol, gan gynnwys cefnogaeth ar-lein ochr yn ochr â chymorth galw heibio wedi'i drefnu.

Mae yr un mor bwysig yn ystod yr amser anodd hwn eich bod yn cael gwybod am eich hawliau ac yn cael eich cefnogi i ofyn cwestiynau am eich triniaeth a'ch bod yn gallu cyrchu eiriolwyr i gefnogi hyn.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.