Neidio i'r prif gynnwy

Coch i Wyrdd

Beth yw Coch i Wyrdd?

Dylai pob diwrnod y mae person mewn gwely ysbyty ychwanegu gwerth at ei ofal.

Nod y dull Coch i Wyrdd yw lleihau hyd arhosiad claf drwy dynnu sylw at ddiwrnodau nad ydynt yn ychwanegu gwerth a lleihau oedi y gellir ei osgoi pan fydd claf yn aros i bethau ddigwydd er mwyn datblygu eu gofal.

 

Coch - diwrnod o ddim gwerth

Cwestiynau allweddol:

  1. A ellir darparu'r gofal claf neu'r ymyriadau a roddir heddiw GARTREF neu mewn lleoliad nad yw'n acíwt? GELLIR - Mae'n DDIWRNOD COCH.
  2. Pe bawn yn gweld y claf mewn lleoliad claf allanol, a fyddai ei 'statws ffisiolegol' presennol yn gofyn am dderbyniad brys? NA - Mae'n DDIWRNOD COCH.
  • Presenoldeb diffygiol y tîm amlddisgyblaethol annigonol yn y Rownd gan y Bwrdd i ganiatáu i benderfyniadau cadarn gael eu gwneud.
  • Gellid darparu'r gofal neu'r ymyriadau y mae'r claf yn eu cael heddiw mewn lleoliad nad yw'n acíwt.
  • Mae profion ac ymchwiliadau wedi'u cynnal, ond nid yw'r canlyniadau wedi'u hadolygu gan y tîm meddygol na gweithredu arnynt.
  • Nid yw ymchwiliad arfaethedig, asesiad clinigol, asesiad rhyddhau neu ymyriad therapi ar gyfer heddiw yn digwydd.
  • Acíwt - Nid oes gan y cynllun gofal meddygol ddyddiad rhyddhau disgwyliedig wedi'i gymeradwyo gan uwch-swyddog meddygol.
  • Acíwt - Mae'r claf yn dderbyniad newydd ac nid wedi cael adolygiad meddygol eto/nid oes cynllun diagnosis/triniaeth cychwynnol.
  • Os oes disgwyl i glaf gael ei ryddhau heddiw ac nad yw'r meddyginiaethau presgripsiwn rhyddhau yn barod. (Llwybrau oedi gofal.)
  • Cludiant yn gohirio rhyddhau neu’n achosi i gynlluniau fethu heddiw.

 

Gwyrdd - diwrnod o werth

  • Y claf yn gwella tuag at ei ryddhau.
  • Gwneir popeth a gynlluniwyd ac y gofynnir amdano.
  • Mae angen y gwely hwn ar y claf ar gyfer gofal aciwt.
  • Mae popeth a gynlluniwyd ar gyfer heddiw yn cael ei wneud.
  • Mae angen gofal acíwt yn yr ysbyty ar y claf.
  • Mae angen gofal cymunedol yn yr ysbyty ar y claf.
  • Mae'r tim meddygol wedi adolygu canlyniadau'r profion a'r ymchwiliadau, a gweithredu arnynt.
  • Mae'r claf yn derbyn ymyriadau gweithredol er mwyn iddo gael ei ryddhau erbyn yfory ac mae'r presgripsiwn wedi'i ysgrifennu ac mae'r meddyginiaethau'n barod ar y paynt rhyddhau arfaethedig.

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.