Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Cymorth Cof Cymunedol

Croeso i dudalen y Tîm Cymorth Cof Cymunedol (CMST)

Ewch yn syth at bwy sy'n glaf priodol?

Ewch yn syth i sut i wneud atgyfeiriad a manylion cyswllt.

  • Ble rydyn ni'n gweithio a sut?

Mae'r Tîm Cymorth Cof Cymunedol ar gyfer y rhai sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n profi problemau cof neu newidiadau i weithrediad gwybyddol a all effeithio ar ddealltwriaeth, rhesymu, dysgu a datrys problemau.

Mae llawer o bobl yn colli eu cof wrth iddynt fynd yn hŷn. Nid yw hyn o reidrwydd oherwydd dementia neu glefyd Alzheimer. Gallai fod oherwydd colli clyw, iselder neu unigedd.

Mae’r tîm aml-sgil, sy’n cynnwys ymarferwyr dementia a gweithwyr cymorth cof, yn ymweld â phobl yn eu cartrefi eu hunain i gynnal asesiad gyda’r bwriad o ddarparu ymyrraeth gynnar, cefnogaeth a gwybodaeth i’r claf, ei ofalwyr ac aelodau o’r teulu.

Mae'r asesiad yn cynnwys un neu fwy o ymweliadau cartref gan aelod o'r tîm a fydd yn trafod unrhyw anawsterau ac yn cynnal amrywiaeth o asesiadau gwybyddol.

Os canfyddir nam ar y cof neu nam gwybyddol bydd y tîm yn cysylltu â meddyg teulu'r claf i drefnu sgrinio pellach.

Os byddant yn nodi materion eraill yn ystod yr ymweliadau cartref, byddant yn gofyn am ganiatâd i atgyfeirio at wasanaethau eraill a allai gynnwys y gwasanaeth iechyd meddwl oedolion hŷn, timau gwaith cymdeithasol, Age Cymru, Gwasanaeth Gofalwyr CNPT, y gwasanaeth tân, cyfeillion neu wasanaeth ailalluogi. .

 

Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim i'r rhai 65 oed a throsodd sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot nad ydynt wedi cael diagnosis ffurfiol o ddementia.

 

Gall unrhyw un wneud atgyfeiriad i’r Tîm Cymorth Cof Cymunedol megis gweithwyr iechyd proffesiynol, aelodau o’r teulu, gofalwyr ac unigolion sy’n pryderu.

E-bost: SBU.NPTCMST@wales.nhs.uk

Ffôn: 01639 684598.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.