Neidio i'r prif gynnwy

Lolfa Rhyddhau

Croeso i dudalen y Lolfa Rhyddhau.

Ewch yn syth at bwy sy'n glaf priodol?

Ewch yn syth i sut i wneud atgyfeiriad a manylion cyswllt.

  • Ble rydyn ni'n gweithio a sut?

Mae'r Lolfa Ryddhau wedi'i lleoli o flaen Ysbyty Treforys, rhwng y drysau flaen a Costa. Rhennir y fynedfa gyda phrofion gwaed.

Ar agor rhwng 8yb a 6yp o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, mae'n cael ei staffio gan nyrsys cymwysedig a gweithwyr cymorth gofal iechyd.

Mae cymarebau cleifion i staff yn aml yn well yn y Lolfa Ryddhau oherwydd ei maint, gyda gofal un-i-un ar gael. Mae'r holl staff yn Hyrwyddwyr Dementia.

Gall Lolfa Rhyddhau gefnogi tua 50 o gleifion y dydd, gan gynnwys y rhai ar stretsieri, nad ydynt yn gallu gadael yr ysbyty yn syth o'r ward.

Gall staff arsylwi, casglu meddyginiaeth o'r fferyllfa, (mae'n rhaid i Gorchmynion Mynd Adref (GMA) fod wedi'u cwblhau) a rhoi meddyginiaeth yn ogystal â darparu diodydd a bwyd poeth ac oer.

Gall staff hefyd archebu cludiant.

 

Mae'r Lolfa Rhyddhau yn gallu darparu ar gyfer y mwyafrif helaeth o gleifion nad ydynt yn gallu gadael yn syth o'r ward.

Gall cleifion symud i'r Lolfa Ryddhau cyn gynted ag y bydd eu Gorchmynion Mynd Adref (GMA) wedi'u cwblhau.

Nid oes angen i wardiau aros am:

  • Presgripsiynau i'w dosbarthu - Gall staff y Lolfa Ryddhau drefnu casglu meddyginiaeth o'r fferyllfa a rhoi unrhyw feddyginiaethau sydd eu hangen i gleifion sy'n aros.
  • Argaeledd staff ward i wisgo cleifion – Bydd staff y Lolfa Ryddhau yn golchi ac yn gwisgo cleifion i ryddhau staff y ward.
  • Amser bwyd i fod ar ben – Mae diodydd poeth ac oer, byrbrydau a brechdanau ar gael yn y Lolfa Rhyddhau. Gellir dod â phrydau bwyd i gleifion hefyd os oes angen.
  • Cludiant i'w archebu – gall staff y Lolfa Ryddhau archebu cludiant.

 

Bydd staff y Lolfa Ryddhau yn cysylltu â chleifion addas ac yn eu codi o'r wardiau neu'r adrannau.

Os ydych yn ansicr ynghylch addasrwydd claf ac yr hoffech gael cyngor, cysylltwch â'r tîm ar gyn: 32485.

 

 

 

 

 

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.