Mae’r Hyb Rhyddhau Integredig (IDH) yn dod â staff bwrdd iechyd, gweithwyr cymdeithasol ac elusennau ynghyd fel un tîm.
Mae'n symleiddio'r broses ar gyfer rhyddhau diogel gyda chymorth, gan helpu cleifion i fynd adref yn gynt a rhyddhau gwelyau i'r cleifion hynny y mae angen eu derbyn i'r ysbyty.
Mae Tîm Brysbennu Aml-Asiantaeth (MATT) y ganolfan yn sicrhau bod y gwasanaethau cywir yn eu lle i gefnogi cleifion, y rhan fwyaf ohonynt yn fregus ac yn oedrannus, i ddychwelyd adref neu i fynd i leoliad unwaith y bydd eu triniaeth wedi dod i ben.
Gall aros yn yr ysbyty yn rhy hir achosi dadgyflyru mewn cleifion, sy'n niwed y gellir ei osgoi megis gwastraffu cyhyrau neu ddryswch a achosir gan ddiffyg gweithgaredd a threfn arferol.
Gall hyn arwain at arhosiadau hirach fyth yn yr ysbyty a gall cleifion golli’r annibyniaeth a oedd ganddynt, megis eu gallu i gerdded heb gymorth neu fynd â’u hunain i’r toiled.
Maent hefyd yn wynebu mwy o risg o haint a salwch o arosiadau hir.
Mae gwaith yr IDH, sydd bellach yn rhychwantu safleoedd Treforys, Singleton a Chastell-nedd Port Talbot, yn cynnwys trefnu gwasanaethau ysbyty yn y cartref, gofal cymdeithasol a chymorth ymarferol fel siopa a gosod sêff allweddol i wneud rhyddhau yn fwy effeithlon. Gallant hefyd gamu i mewn i atal derbyniadau i'r ysbyty.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.