Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn RSV i fenywod beichiog

Llun o fenyw beichiog, logo ICC a logo

Gall menywod beichiog nawr drefnu apwyntiadau i gael eu brechlyn RSV

Er mwyn cynnig yr amddiffyniad gorau i'ch babi, dylech gael eich apwyntiad brechlyn rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd (lle mae'r brechlyn yn fwy effeithiol).

Gallwch gysylltu â'ch bydwraig neu'ch meddyg teulu am yr apwyntiad hwn. Os nad yw eich meddygfa yn cynnig y brechlyn RSV, defnyddiwch y ffurflen archebu isod i drefnu apwyntiad.

Os byddwch yn methu eich brechlyn, gallwch ei gael hyd nes y bydd eich babi wedi'i eni. Fodd bynnag, os byddwch yn ei gael yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd efallai na fydd mor effeithiol.

Mae astudiaethau wedi dangos bod y brechlyn RSV yn ddiogel iawn i chi a'ch babi. Nid yw’r brechlyn RSV yn frechlyn byw, felly ni all achosi RSV ynoch chi na’ch babi. Dyma'r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o helpu i amddiffyn eich babi heb ei eni rhag RSV.

I archebu eich brechlyn naill ai yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, Ysbyty Singleton neu gynnig arall – dilynwch y ddolen hon.

Mae'r ffurflen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. Dewiswch eich dewis iaith gan ddefnyddio'r gwymplen yng nghornel dde uchaf y ffurflen.


Mae RSV (feirws syncytaidd anadlol) yn achos cyffredin o heintiau llwybr anadlol. I'r rhan fwyaf o oedolion a phlant, mae haint RSV yn achosi salwch ysgafn, fel peswch neu annwyd, sydd fel arfer yn gwella ar ei ben ei hun. Fodd bynnag, i rai, yn enwedig babanod o dan flwydd oed ac oedolion hŷn, gall RSV fod yn ddifrifol iawn a gall achosi bronciolitis a niwmonia. Mae gan o leiaf hanner yr holl blant RSV yn eu blwyddyn gyntaf o fywyd a bydd bron pob un wedi ei gael erbyn iddynt fod yn ddwy oed.

Gallwch helpu i amddiffyn eich babi rhag RSV o’i enedigaeth trwy gael y brechiad RSV tra byddwch yn feichiog.

  • Gall RSV ddigwydd trwy gydol y flwyddyn ond mae'n fwy cyffredin yn ystod yr hydref a'r gaeaf.
  • Mae mwy na 1,000 o fabanod yng Nghymru yn mynd i'r ysbyty oherwydd y firws. Mae nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd RSV wedi cynyddu yn yr 20 mlynedd diwethaf.
  • Os ydych wedi cael haint RSV yn y gorffennol, nid yw'n golygu na allwch gael RSV eto.

Cymhwyster ar gyfer y brechlyn

Am y brechlyn

Diogelwch ac effeithiolrwydd

Isod mae fideo gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn egluro'r gwahanol frechiadau yn ystod beichiogrwydd.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.