Rhwng 8 Ebrill a 20 Mai 2019, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn ymgysylltu â chleifion yn dilyn cais gan Bartneriaeth Tawe Aman, sy'n darparu gwasanaethau meddygon teulu lleol, i drosglwyddo gwasanaethau i'w safleoedd ymarfer cyfagos.
Mae'r practis Meddyg Teulu wedi nodi nad yw'r adeiladau yng Nghwmllynfell yn addas at y diben a hefyd y byddai trosglwyddo gwasanaethau yn gwella cynaliadwyedd trwy ganiatáu defnydd llawn o safleoedd cyfagos a mwy o fynediad i weithwyr iechyd proffesiynol.
Byddai'r Bwrdd Iechyd a Phractis Meddygon Teulu yn dymuno gweithio gyda'r boblogaeth i weld sut y gall cleifion barhau i gael mynediad at wasanaethau meddygol cyffredinol yn ddiogel ac yn effeithiol a byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn dymuno deall effaith hyn ar anghenion lleol. Cydnabyddir, petai'r cynnig hwn yn cael ei gefnogi, y byddai angen rhoi trefniadau cludiant cymunedol amgen effeithiol ar waith.
Cytunwyd ar ystod a chwmpas yr ymgysylltiad â Chyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe. Mae dogfen ymgysylltu ar gael i'w lawrlwytho isod.
Mae croeso i chi fynychu'r sesiynau galw heibio a gynhelir yn Neuadd Les Neuadd Cwmllynfell gyda'r Cyngor Iechyd Cymuned ar y dyddiadau a'r amseroedd canlynol:
Dydd Iau 11fed Ebrill 2019 - 9.00 - 1.00 pm
Dydd Llun 29ain Ebrill 2019 - 4.00 - 6.30pm
Dydd Iau 2il Mai 2019 - 12.00 - 16.30 pm
Ysgrifennu atom:
Tîm Gofal Sylfaenol
Cwmllynfell Ymgysylltu
Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
Bloc A
Port Talbot
SA12 7BX
E-bostiwch ni: ABM.Cwmllynfell@wales.nhs.uk
Ffôn: 01639 684581 a 01639 684631
Rydym wedi cynhyrchu ffurflen ymateb fel ei bod yn haws i chi ymateb i'r ymgysylltiad hwn. Byddem yn gwerthfawrogi eich bod yn llenwi hwn.
Dogfen ymateb ymgysylltu (Cymraeg)
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.