Neidio i'r prif gynnwy

Addewid Ein Pobl

Beth allaf ei ddisgwyl gan y Bwrdd Iechyd?

  • Llais sy’n cyfrif: teimlo’n ddiogel a hyderus i godi llais. Byddwn yn gwrando, yn gweithredu ac yn ymateb.
  • Tosturi, cynwysoldeb a pherthyn: ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o wahaniaethu, bwlio na thrais.
  • Arweinyddiaeth sy’n esiampl i eraill: ac yn gweithredu fel eiriolwyr ar gyfer gwerthoedd ac ymddygiadau ein Bwrdd Iechyd.
  • Pob rôl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad: byddwn yn cydnabod ac yn gwobrwyo perfformiad rhagorol ac yn rhannu 'diolch' syml am ddarparu gwasanaethau a gofal o ddydd i ddydd.
  • Ymddiriedaeth, ymreolaeth ac effeithlonrwydd: byddwn yn symleiddio prosesau a systemau allweddol nad ydynt yn ychwanegu gwerth, yn creu gwastraff, yn oedi ac yn achosi niwed posibl.
  • Hyblygrwydd: ni fyddwn yn aberthu ein hiechyd, diogelwch a lles. Byddwn yn cefnogi patrymau gwaith hyblyg lle bynnag y gallwn ac os bydd angen i ni gymryd amser i ffwrdd, rydym yn cael ein cefnogi i wneud hynny.
  • Dysgu a chefnogaeth bob amser i gyrraedd ein potensial: mae gennym ni fynediad cyfartal i gyfleoedd. Rydym yn denu, yn datblygu ac yn cadw pobl dalentog.
  • Creu pwrpas a chyfeiriad: galluogi pawb i ddeall yr egwyddorion, y newidiadau a'r bwriad sydd gennym i wella gwasanaethau.
  • Gweithio dros ein cleifion i ddarparu gofal rhagorol: a rhoi’r claf o flaen y GIG a rhwystrau sefydliadol eraill a mynd y tu hwnt i hyn trwy weithio mewn partneriaethau.

 

Beth mae’r Bwrdd Iechyd yn ei ddisgwyl gennyf i

  • Llais sy’n cyfrif: teimlo’n ddiogel a hyderus i godi llais. Byddwn yn gwrando, yn gweithredu ac yn ymateb
  • Cymryd perchnogaeth a chyfrifoldeb: dal fy hun ac eraill i gyfrif am ddarparu gofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y claf/defnyddiwr gwasanaeth, gyda nodau clir sy’n canolbwyntio ar gyflawni a bob amser yn anelu at wella pethau.
  • Siarad a lleisio pryderon yn barchus: pan fyddwn yn sylwi ar unrhyw beth a fydd yn peryglu diogelwch neu ansawdd staff neu gleifion.
  • Gweithio fel tîm ar draws y system ar gyfer ein cleifion: darparu taith ddi-dor claf/defnyddiwr gwasanaeth a lleihau rhwystrau i fynediad i bawb.
  • Gwneud penderfyniadau: gan y rhai sydd agosaf at gleifion/defnyddwyr gwasanaeth mewn partneriaeth â rheolwyr a'u cefnogi ganddynt.
  • Gofal caredig, tosturiol a darparu gwasanaethau: yn fy rhyngweithiadau dyddiol â chleifion, teuluoedd, gofalwyr a chydweithwyr, yn unol â’n gwerthoedd, gan gynnwys bod yn ddigon caredig i gael y sgyrsiau anodd a gwneud y rhain gyda thosturi.
  • Darparu gofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth heb niwed: yn seiliedig ar ddeall risgiau allweddol, yn unol â chanlyniadau clinigol clir sy’n adlewyrchu nodweddion ansawdd gwasanaeth.
  • Gweithio’n gynhwysol gyda phob cydweithiwr: a gwerthfawrogi gwahaniaeth, gan adeiladu lle mwy cynhwysol i’n staff a’n cleifion.
  • Cydweithio ar draws timau amlddisgyblaethol: i osod gweledigaeth, strategaeth a chynllun ar gyfer eich gwasanaethau i bawb bod yn glir i ble rydych chi a’ch gwasanaeth yn mynd a sut mae’n cefnogi’r gwasanaethau y mae cleifion yn eu derbyn.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.