Ar y dudalen hon rydym yn cysylltu â rhai gwefannau a ddarperir gan drydydd partïon lle mae'r cynnwys ar gael yn Saesneg yn unig. Mae hyn y tu hwnt i'n rheolaeth.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn dilyn y canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch rhaglenni cyfalaf. Mae'r Pwyllgor Strategaeth a Chynllunio yn cymeradwyo'r rhaglen gyfalaf ar gyfer symiau cyfalaf dibrisiol, yn argymell i'r bwrdd flaenoriaethu Cynlluniau Cyfalaf Cymru Gyfan, craffu ar gynlluniau busnes mawr cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, sicrhau Terfyn Adnoddau Cyfalaf cytbwys a rhaglen gyfalaf, darparu dull cydgysylltiedig o ymdrin â chynlluniau cyfalaf y Bwrdd Iechyd a monitro darpariaeth y cynllun blynyddol a'r rhaglen gyfalaf tymor hwy. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifennydd y Bwrdd ym Mhencadlys Bae Abertawe ar (01639) 683323. Mae Cynllun Tymor Canolig Integredig y Bwrdd Iechyd hefyd yn rhoi manylion cynlluniau'r Bwrdd Iechyd ar gyfer y tair blynedd nesaf. (Rydym yn aros am y ddogfen hon yn Gymraeg .)
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.