Neidio i'r prif gynnwy

Claf gwyrddach - beth allwch chi ei wneud

Mae angen iechyd da ar bob un ohonom – ac felly hefyd y blaned. Ar hyn o bryd mae'r GIG yn cyfrannu tua phump y cant o allyriadau carbon y DU - ond dyma hefyd y system gofal iechyd gyntaf yn y byd i ymrwymo i ddod yn sero net.

Er y byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i helpu ein hamgylchedd, mae yna ychydig o ffyrdd y gallwch chi helpu.

  • Ailgylchu - Gellir dychwelyd pecynnau tabledi plastig a ffoil gwag i Superdrug i’w hailgylchu a dylid dychwelyd anadlwyr i’ch fferyllfa fel y gellir dinistrio unrhyw ysgogydd – a all fod yn nwy tŷ gwydr pwerus – neu, hyd yn oed yn well, ei ailgylchu i’w ddefnyddio mewn rheweiddio.
  • Ail-lenwi - Dewch â'ch potel ddŵr eich hun neu gwpan y gellir ei hailddefnyddio. Mae dŵr tap yn ein holl ysbytai yn ddiogel i’w yfed, a gallwch ofyn i’n mannau gwerthu bwyd roi eich coffi yn eich mwg eich hun yn hytrach na rhoi cwpan untro i chi.
  • Teithio gwyrddach - Allech chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd eich apwyntiad? Neu a allai eich ymwelwyr? Os ydych chi'n byw o fewn pellter beicio, mae raciau beic ym mhob un o'n safleoedd.
  • Mannau gwyrdd - Rydym wedi gweithio gyda Bioffilig Cymru i greu mannau gwyrdd ar draws ein safleoedd. Yn Nhreforys mae tŷ crwn â tho glaswellt i lawr yr allt o'r maes parcio aml-lawr. Yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot mae meinciau wrth ymyl y pyllau lle gallwch fwynhau rhywfaint o awyr iach, ac mae Parc Singleton 200 erw yn ffinio ag Ysbyty Singleton.
  • Gofalwch amdanoch chi'ch hun - mae atal yn well na gwella - i chi a'r blaned! Rhai camau syml y gallwch eu cymryd i wella’ch iechyd a sathru’n ysgafnach ar y ddaear, o roi’r gorau i smygu i gerdded neu feicio lle gallwch, a bwyta deiet sy’n fwy seiliedig ar blanhigion.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.