Mae mwy a mwy o bobl yn talu am driniaeth breifat y tu allan i'r DU.
Os ydych yn ystyried hyn fel opsiwn, byddwch yn ymwybodol o'r canlynol:
Gwnewch eich ymchwil. Eich cyfrifoldeb chi yw casglu cymaint o wybodaeth a chyngor â phosibl ar hygrededd a diogelwch y gwasanaeth a ddewisir, fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ydych am fwrw ymlaen.
Os byddwch yn dewis bwrw ymlaen mae'n bwysig cysylltu â'ch meddyg teulu cyn i chi deithio i drafod y driniaeth yr ydych yn ei chael dramor ac i drefnu ôl-ofal pan fyddwch yn dod adref.
Bydd hyn yn sicrhau bod y broses atgyfeirio ar gyfer unrhyw ôl-ofal y gallai fod ei angen yn dechrau cyn i chi fynd dramor am driniaeth.
Byddwch hefyd yn cael gwybod am yr amseroedd aros presennol yn y gwasanaethau y bydd eu hangen arnoch.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod ôl-ofal yn cael ei drefnu cyn i chi gael triniaeth dramor hunan-ariannu. Oherwydd amseroedd aros lleol, efallai y bydd oedi sylweddol cyn cael mynediad at ôl-ofal os na chaiff yr awgrymiadau hyn eu dilyn.
Pan fyddwch yn cael triniaeth dramor, rhaid i chi ofyn i ddarparwr y driniaeth am eu hargymhellion dilynol wedi'u dogfennu mewn crynodeb rhyddhau ysgrifenedig yn Saesneg.
Dylai hyn gynnwys unrhyw feddyginiaeth a dosau, yn ogystal ag unrhyw ddyddiadau y mae'n rhaid cynnal profion gwaed ac apwyntiadau dilynol.
Mae'n bwysig cysylltu â'ch meddyg teulu cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd yn ôl a rhoi copi o'r crynodeb rhyddhau wedi'i gyfieithu iddo ynghyd ag unrhyw wybodaeth neu ddogfennau meddygol perthnasol eraill a roddwyd i chi gan ddarparwr y driniaeth. Dylid cyfieithu'r rhain hefyd.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.