Nod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw darparu'r gofal a'r driniaeth gorau.
Rydym yn croesawu eich holl barn ac eisiau dysgu o'ch profiadau, boed yn dda neu'n ddrwg.
Mae mwyafrif helaeth y bobl yn hapus gyda'r gwasanaeth y maent yn ei dderbyn. Ond weithiau, efallai na fydd pethau'n mynd cystal â'r disgwyl. Drwy ddweud wrthym am eich pryderon, gallwn ymddiheuro i chi, ymchwilio a cheisio unioni pethau. Byddwn hefyd yn dysgu gwersi ac yn gwella gwasanaethau.
Fodd bynnag, mae rhai pethau na allwn ymdrin â hwy o dan y trefniadau, megis cwyn a wnaed ac yr ymchwiliwyd iddi o dan y trefniadau a oedd ar waith cyn 1 Ebrill 2011.
Yn flaenorol nid oedd y bwrdd iechyd yn gallu delio â chwynion ynghylch cleifion preifat. Fodd bynnag, mae hyn bellach wedi'i adolygu - rhagor o wybodaeth isod.
Gellir gwneud cwynion neu bryderon drwy gyfrwng y Gymraeg; wyneb yn wyneb, yn ysgrifenedig neu dros y ffôn. Ni fydd cwyn neu bryder a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chwyn neu bryder a wneir yn Saesneg.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.