Neidio i'r prif gynnwy

Pwy sy'n penderfynu ar CPR?

Mae dau benderfyniad i'w gwneud mewn gwirionedd wrth feddwl am CPR.

Bydd y tîm clinigol yn penderfynu gyda chi a fyddant yn cynnig triniaeth CPR i chi.

Gallwch chi a'ch tîm gofal iechyd drafod a fyddech chi'n debygol o elwa o roi cynnig ar CPR. Mae eich dymuniadau yn bwysig iawn i helpu'r meddygon i wneud y penderfyniad hwn.

  • Eich credoau.
  • Eich iechyd presennol.
  • A yw CPR yn debygol o ailgychwyn eich anadlu a'ch calon, ac am ba hyd.
  • Hefyd a fydd CPR yn eich helpu i fyw'n hirach mewn ffordd y gallwch chi ei fwynhau.
  • Hefyd pa effaith y gallai CPR ei chael ar eich iechyd yn y dyfodol a'r ffordd rydych chi'n mwynhau bywyd

Os yw’r tîm clinigol yn credu y gallech elwa o roi cynnig ar CPR, yna gallwch benderfynu a ydych am dderbyn y cynnig hwnnw o’r driniaeth, CPR

Os byddwch chi a/neu’r tîm clinigol yn penderfynu na ddylech gael CPR yna bydd y penderfyniad yn cael ei gofnodi yn eich nodiadau ar ffurflen o’r enw ‘Peidiwch â Cheisio Dadebru Cardio-y-pwlmonaidd’ (ffurflen DNACPR). Byddwch hefyd yn cael copi o'r ffurflen.

O bryd i'w gilydd, ni fydd y tîm clinigol yn cael cyfle i drafod CPR/DNACPR gyda chi. Mae siarad am CPR yn gynnar, ac ailymweld ag ef yn ôl yr angen, yn ddefnyddiol i sicrhau bod eich tîm clinigol yn deall yr hyn sy'n bwysig i chi.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.