Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabod ein staff

Mae llawer o wahanol fathau o staff yn gweithio ar Unedau Newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Meddygon, nyrsys, cynorthwywyr gofal iechyd, clercod ward i ffisiotherapyddion. Mae'r dudalen hon yn eich helpu i adnabod ein staff o'r gwisgoedd maen nhw'n eu gwisgo.

Mae gan bob aelod o staff fathodynnau adnabod y GIG gyda'u ffotograffau- dylai'r rhain fod yn weladwy bob amser.

Delwedd o feddygon

Meddygon

Mae ein holl Feddygon yn gwisgo dillad bob dydd - eu crysau,  trowsus neu sgertiau eu hunan. Efallai y byddwch hefyd yn eu gweld yn gwisgo gynau llawfeddygol gwyrdd neu las.

Delwedd o nyrs arweiniol

Nyrs Arweiniol

Mae Nyrs Arweiniol yn gyfrifol am reoli staff nyrsio a staff perthynol ar yr uned newydd-anedig. Mae Nyrsys Arweiniol yn gwisgo trowsus a tiwnig glas tywyll, gyda  coch ar y coler.

Delwedd o reolwr ward

Rheolwr y Ward

Mae Rheolwr Ward yn uwch nyrs â gofal yr holl nyrsys sy'n gweithio ar sifft benodol. Maent yn gwisgo trowsus a tiwnigau glas tywyll.

delwedd o nyrs staff

Nyrs Staff

Mae Nyrs Staff yn nyrs gofrestredig sy'n gofalu am eich babi ar yr uned newydd-anedig. Maent yn gwisgo trowsus a tiwnigau glas golau.

delwedd o nyrs feithrin

Nyrs Feithrin

Mae Nyrs Feithrin yn aml yn gofalu am eich babi mewn ardaloedd gofal arbennig, unedau gofal trosiannol a ward ôl-enedigol dan oruchwyliaeth Nyrsys Staff. Maent yn aml yn brofiadol iawn o ran eich cefnogi chi a'ch babi cyn iddynt fod yn barod i fynd adref. Maent yn gwisgo trowsus a tiwnigau  gwyrdd golau.
delwedd o weithiwr cymorth gofal iechyd

Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd

Mae Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn cyfrannu at gadw tŷ a dyletswyddau gweinyddol yn yr uned. Maent yn gwisgo trowsus a tiwnigau gwyrdd tywyll.

delwedd o gynorthwy-ydd domestig

Cynorthwy-ydd Domestig

Mae Cynorthwy-ydd Domestig yn helpu i gadw'r uned Newydd-anedig yn lân ac yn daclus. Maent yn gwisgo trowsus a tiwnigau bwrgwyn.

delwedd o dderbynnydd

Derbynyddion a Chlercod Wardiau

Mae Clerc / Derbynnydd Ward yn darparu gwasanaethau gweinyddol, clerigol a chymorth cyffredinol ar gyfer yr Uned Newydd-anedig. Maent yn gwisgo crysau glas patrymog a throwsus glas tywyll.

delwedd o ffisiotherapydd

Ffisiotherapyddion

Mae gan Ffisiotherapydd sgiliau a gwybodaeth arbenigol ac mae'n helpu i ddatblygu / adfer symudiad a swyddogaeth trwy leoli, therapi â llaw ac ymarferion. Maent yn gwisgo topiau gwyn a throwsus glas tywyll.

delwedd o oruchwyliwr bydwraig

Goruchwyliwr Bydwreigiaeth

Mae goruchwyliwr bydwraig yn cefnogi mam trwy feichiogrwydd a genedigaeth gan gynnwys gofal ôl-enedigol arferol. Maent yn gwisgo tiwnigau glas tywyll.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.