Neidio i'r prif gynnwy

Therapïau

Mae Gwasanaethau Therapi Plant a Phobl Ifanc yn cynnwys Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi, Therapi Iaith a Lleferydd (SALT) a Maeth a Deieteg. Mae ein gwasanaethau'n cael eu darparu ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIP), sy'n cwmpasu Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot (CNPT).

Mae ein therapyddion yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys ein Canolfannau Plant, meithrinfeydd, ysgolion, colegau, cartrefi cleifion, canolfannau iechyd ac ysbytai. Rydym yn darparu gwasanaeth i blant a phobl ifanc o'u genedigaeth tan eu pen-blwydd yn 19 mlwydd oed.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.