Mae'r clinig orthopteg yn Ysbyty Singleton wedi'i leoli yn yr adran cleifion allanol ar Goridor 6.
Mae yna dderbynfa, 4 ystafell glinig gan gynnwys 3 ystafell brofi gyffredinol, ystafell oedolion ac ystafell ar gyfer profi babanod. Mae yna hefyd ystafell chwarae i blant ac ardal aros benodol.
Mae cysylltiad agos rhwng yr adran hon a'r adran offthalmoleg ar Goridor 7.
Cyfarwyddiadau teithio o'r Gorllewin
Cyfarwyddiadau teithio o'r Dwyrain
Mae clinig Orthopteg Castell-nedd wedi'i leoli yn y Clinig Llygaid, ar lefel uchaf yr adran Cleifion Allanol.
Mae'r adran yn cynnwys dwy ystafell glinig, man chwarae i blant ac ardal aros i gleifion.
Cyfarwyddiadau teithio o'r Gorllewin
Cyfarwyddiadau teithio o'r Dwyrain
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.