Neidio i'r prif gynnwy

Addysg a Gyrfaoedd

Mae tua 1100 o Orthoptwyr yn Ynysoedd Prydain. Mae'r rhan fwyaf o Orthoptwyr yn gweithio yn y GIG ac yn weithwyr proffesiynol cofrestredig a reoleiddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.

Mae gan bob aelod o'r gweithlu radd yn y maes ac maent yn dod o dair canolfan hyfforddi achrededig ar gyfer myfyrwyr israddedig, sef prifysgolion Sheffield, Lerpwl a Glasgow. Mae'r prifysgolion hyn yn darparu Orthoptwyr ar gyfer pedair gwlad y DU a Gweriniaeth Iwerddon. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn darparu lleoliadau clinigol ar gyfer myfyrwyr Orthopteg israddedig fel rhan o'u cwrs gradd 3 blynedd.

Mae'r adran Orthopteg hefyd yn darparu hyfforddiant i fyfyrwyr meddygol ac Orthoptwyr cyn iddynt gofrestru, yn ogystal â rhoi hyfforddiant blynyddol ar asesu'r llygaid i nyrsys ysgol ac ymwelwyr iechyd.

Cymdeithas Orthopteg Prydain ac Iwerddon (BIOS) yw'r corff proffesiynol ac addysgol sy'n cynrychioli Orthoptwyr yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon. Mae BIOS yn gysylltiedig â Ffederasiwn y Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, sef grŵp sy'n cynnwys 12 corff sy'n cynrychioli mwy na 158,000 o weithwyr yn y DU.

Os hoffech ddysgu mwy am y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, dilynwch y ddolen hon i wefan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal i gael mwy o wybodaeth.

Os hoffech ddysgu mwy am Gymdeithas Orthopteg Prydain ac Iwerddon (BIOS), dilynwch y ddolen hon i wefan Cymdeithas Orthopteg Prydain ac Iwerddon i gael mwy o wybodaeth.

Os hoffech ddysgu mwy am Ffederasiwn y Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, dilynwch y ddolen hon i wefan Ffederasiwn Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i gael mwy o wybodaeth.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.