Neidio i'r prif gynnwy

Fideos sy'n cynnig cefnogaeth tra byddwch chi'n aros

Gall cael eich atgyfeirio ar lwybr brys ar gyfer canser a amheuir (USC) godi llawer o gwestiynau. Rydym wedi gwneud rhai fideos i'ch helpu ar hyn o bryd a gobeithio mynd i'r afael â rhai o'r cwestiynau a allai fod gennych. Mae'r cynnwys yn y dolenni isod yn darparu canllawiau i unigolion sy'n cael eu hatgyfeirio ar lwybr brys ar gyfer canser a amheuir, gan esbonio beth i'w ddisgwyl a sut i reoli'r cyfnod aros. Mae'n cynnwys:

  1. Proses Atgyfeirio: Fideo yn egluro pam mae atgyfeiriadau brys yn digwydd a beth mae'r broses yn ei olygu.
  2. Rheoli Teimladau: Cyngor a strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau wrth aros am apwyntiad.
  3. Gweithgaredd Corfforol: Pwysigrwydd aros yn egnïol, gydag awgrymiadau sy'n addas ar gyfer pob lefel ffitrwydd.
  4. Arferion Ffordd o Fyw: Canllawiau ar leihau ysmygu ac alcohol er mwyn iechyd gwell.
  5. Bwyta'n Iach: Awgrymiadau ar gyfer maeth cytbwys a rheoli pryderon colli pwysau.

Mae adnoddau ychwanegol wedi'u cysylltu ar gyfer cymorth iechyd meddwl, ymarfer corff, rhoi'r gorau i ysmygu, cyngor ar alcohol, a bwyta'n iach.

Cliciwch ar bob dolen i ddod o hyd i wybodaeth sy'n berthnasol i'ch anghenion. Gallwch hefyd fynd yma i ddod o hyd i restr chwarae sy'n cynnwys yr holl fideos hyn ar ein sianel YouTube.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.