Neidio i'r prif gynnwy

Wynebu'r Her

Cyflwyniad

Ar y tudalennau hyn, fe welwch wybodaeth am wasanaeth anabledd dysgu plant Bae Abertawe, Wynebu'r Her. Mae'r gwasanaeth wedi'i sefydlu ar gyfer plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu ac ymddygiadau heriol.

 

Beth ydym ni'n ei wneud?

Mae Wynebu'r Her yn dîm aml-broffesiynol sydd ag arbenigedd mewn deall cyflwyniadau ymddygiad cymhleth. Ein nod yw gweithio gyda'r rhai sy'n adnabod y plentyn orau, ac mae cefnogaeth wedi'i theilwra i gyflwyniad y plentyn a'i amgylchiadau presennol.

Rydym yn darparu cefnogaeth i gartref teuluol y plentyn, lleoliadau cymunedol, ysgolion a gwasanaethau seibiant.

 

Pwy allwn ni ei helpu?

Plant a phobl ifanc sydd ag anabledd dysgu sy'n cyflwyno ymddygiadau heriol. Rhaid i'r plentyn:

  • Bod â thystiolaeth o anabledd dysgu
  • Bod o oedran ysgol (5-18 oed)
  • Byw o fewn ôl troed Bae Abertawe (awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot neu Abertawe.)

Angen cefnogaeth arbenigol ar gyfer ymddygiad nad yw wedi ymateb i ymyriadau generig.

 

Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig

Mae tîm o weithwyr proffesiynol yn cynllunio ein cefnogaeth a gall gynnwys:

Asesiad:

  • Adolygiad trylwyr o gyflwyniad y plentyn.
  • Arsylwadau o'r plentyn gartref, yn yr ysgol, ac yn y gymuned.
  • O'r system sy'n cefnogi'r plentyn a pha gefnogaeth sydd ar waith.

Ymyrraeth uniongyrchol:

  • I rieni a gofalwyr yn unigol ac mewn grŵp gyda gofalwyr eraill, er mwyn deall cyflwyniad eu plentyn.
  • Strategaethau addysgu i leihau ymddygiadau heriol a meithrin gwydnwch teuluol.
  • Gweithio'n uniongyrchol gyda'r plentyn (pan fo'n briodol) i ddeall ei ymddygiad.

Ymyrraeth anuniongyrchol:

  • Cymorth i wasanaethau sy'n gweithio gyda'r plentyn drwy gyngor, hyfforddiant ac ymgynghoriadau.
  • Modelu strategaethau'n uniongyrchol ar gyfer gwasanaethau y mae'r plentyn yn eu cyrchu e.e. ysgol, seibiant.

 

Sut i wneud atgyfeiriad

Gallwch wneud atgyfeiriad i Wynebu'r Her os ydych chi'n:

  • Pediatregydd
  • Ymwelydd iechyd arbenigol
  • Gweithiwr cymdeithasol
  • Ymarferydd CAMHS LD
 
Gwybodaeth gyffredinol

Mae'r tîm wedi'i leoli yng Nghanolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cimla yng Nghastell-nedd ac mae'n gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9yb a 5yh.

Rhif ffôn: 01639 683485

Cyfeiriad e-bost: BIPBA.WyneburHer@wales.nhs.uk