Ein nod yw rhoi'r ansawdd bywyd gorau posibl i blant, er bod eu bywydau yn awr yn fyrrach.
Byddwn yn eu cefnogi nhw a’r rhai sy’n gofalu amdanynt, os yw’r plant yn yr ysbyty neu gartref.
Yn aml mae'n anodd gwybod pa mor hir neu fyr y gall bywyd person ifanc fod. Ond mae ein gwasanaeth yn cydnabod yr ansicrwydd hwn ac yn gweithio ochr yn ochr â theuluoedd i ddarparu'r gofal gorau posibl.
Mae'n bosibl y bydd angen y gofal hwn o'r adeg y ceir diagnosis neu o'r adeg y cydnabyddir y gallai bywyd babi, plentyn neu berson ifanc gael ei fyrhau .
Mae llawer o weithwyr proffesiynol yn cydweithio i ddarparu ein gwasanaeth gofal lliniarol ac mae hyn yn cynnwys cydweithwyr o addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn ogystal â gofal hosbis.
Rydym yn mabwysiadu ymagwedd gyfannol, sy'n golygu ein bod yn anelu at ddarparu ar gyfer pob angen, nid dim ond corfforol. Rydym yn cefnogi ac yn gwella gwasanaethau emosiynol, cymdeithasol ac ysbrydol i deuluoedd.
Rydym hefyd yn darparu gofal profedigaeth.
Mae'r fideo hwn trwy garedigrwydd trydydd parti. Nid yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gyfrifol am ei gynnwys.
Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai dolenni allanol ddim ar gael yn y Gymraeg.