Neidio i'r prif gynnwy

Staff canolfan Llosgiadau yn rhannu eu harbenigedd mewn cynhadledd ryngwladol

Burns

Mae staff o Ganolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru wedi bod yn rhannu eu harbenigedd gyda gweithwyr proffesiynol o bob rhan o'r byd wrth iddi nesáu at ei phen-blwydd yn 30 oed.

Mae'r ganolfan yn Ysbyty Treforys, un o wasanaethau llosgiadau mwyaf a phrysuraf Ewrop, yn darparu gofal arbenigol i fwy na 1,000 o bobl bob blwyddyn, hanner ohonynt yn blant, ac yn trin mwy na 6,500 o bobl sydd angen llawdriniaeth blastig, yn aml yn dilyn trawma, haint a chanser.

Yn sgil ei gwaith a'i henw da gwahoddwyd saith aelod o'r ganolfan i gynhadledd flynyddol Cymdeithas Llosgiadau Prydain, a gefeilliwyd eleni â'r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anafiadau Llosgiadau i nodi ei 20fed cynhadledd.

Roedd y grŵp yn cynnwys pum aelod o staff meddygol, therapydd a nyrs. Gwnaethant roi cyflwyniadau i fynychwyr ar ôl i bapurau a gyflwynwyd ganddynt gael eu dewis i’w rhannu â chyd-arbenigwyr.

Yn ystod y digwyddiad hefyd penodwyd Arbenigwr Nyrsio Clinigol Uwch Louise Scannell yn arweinydd ar gyfer nyrsys sy'n gweithio ym maes gofal llosgiadau ledled y DU ac Iwerddon.

Y swydd hon yw ail benodiad arweiniol y gymdeithas o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gyda'r therapydd galwedigaethol uwch ymarferydd Janine Evans yn bennaeth ar grŵp therapyddion y gymdeithas.

Dywedodd Louise: “Roedd fy nghyflwyniad yn ymwneud â sut rydym yn cynnal safonau gyda chyn lleied o nyrsys llosgiadau pediatrig, a sut rydym yn parhau i recriwtio, hyfforddi a datblygu nyrsys arbenigol o’r fath.

“Roedd yn gyfle gwych i gynrychioli nyrsio a chyflwyno ein gwaith i weithwyr gofal llosgi proffesiynol o bedwar ban byd.

“Ac wrth gwrs roedd yn anrhydedd cael fy mhenodi’n nyrs arweiniol ar gyfer y gymdeithas ar gyfer y DU gyfan.”

Louise Scannell

Roedd pynciau eraill a gyflwynwyd yn y gynhadledd yn cynnwys adolygiad achos y ganolfan llosgiadau o drais domestig yn ystod y pandemig; trin creithiau llosgiadau â laser a defnyddio technolegau fel uwchsain i fesur trwch craith yn gywir, a chymhlethdodau posibl; astudiaeth o losgiadau difrifol oherwydd lliw haul gwelyau haul; a thrin traed llosg.

Dywedodd Cyfarwyddwr Clinigol y Gwasanaeth Llosgiadau Jeremy Yarrow: “Rwy’n hynod falch o’r tîm. Mae cael saith darn rhagorol o waith wedi’u harddangos ar y llwyfan rhyngwladol i gydweithwyr o bob rhan o’r byd yn gyflawniad eithriadol.

“Hoffwn gydnabod hefyd ei bod yn wych cael cyflwyniadau nid yn unig gan y tîm meddygol ond gan dîm amlddisgyblaethol llosgiadau cyfan. Da iawn chi gyd, gwaith ardderchog ac ymrwymiad i’n gwasanaeth.”

Ychwanegodd yr ymgynghorydd Sarah Hemington-Gorse: “Mae’n wych gweld cymaint o gynrychiolaeth o’r tîm amlddisgyblaethol llosgiadau sydd i gyd wedi gweithio’n galed i rannu eu profiad a’u gwybodaeth glinigol gyda’r gymuned llosgiadau ehangach.

“Rydym yn freintiedig iawn i gael tîm anhygoel yn gweithio o fewn llosgiadau yng Nghanolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru ac mae’n wych gweld eu gwaith yn cael ei gydnabod a’i rannu.”

Yn ogystal â rhannu eu gwybodaeth, roedd y gynhadledd hefyd yn gyfle i ddod i gysylltiad a dysgu am rai o'r llawdriniaethau adluniol sy'n cael eu perfformio ar gleifion llosgiadau mawr ledled y byd.

Dywedodd Michaela Paul llawfeddyg dan hyfforddiant mewn llosgiadau a phlastigau: “Roedd cynhadledd ISBI/BBA yn gyfle gwych i ddysgu mwy am losgiadau a sut mae’n effeithio’n wahanol ar ein cydweithwyr a’u cleifion ledled y byd.

“Mwynheais yn fawr gyfrannu at y sesiwn poster epidemioleg llosgiadau ar ddiwrnod olaf y gynhadledd a chefais fod y profiad yn addysgiadol iawn.”

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd y hen ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Mark Drakeford £7.7 miliwn i uwchraddio Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru wrth iddi nodi ei phen-blwydd yn 30 oed.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.