Mae tîm newydd ymroddedig yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i helpu i atal digartrefedd ar draws Bae Abertawe.
Mae’r bwrdd iechyd wedi cyflwyno ei dîm therapi galwedigaethol digartrefedd cyntaf yn ddiweddar fel rhan o brosiect aml-asiantaeth newydd.
Wedi’i ariannu gan Gronfa Helpu Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd y Loteri Genedlaethol, mae’r prosiect yn gweld nifer o wasanaethau ac asiantaethau’n cydweithio i helpu i gefnogi pobl ag anghenion lluosog heb eu diwallu, sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.
Yn y llun: Therapydd galwedigaethol Nasiba Chowdhury a thechnegydd therapi galwedigaethol Paul Hunt.
Mae Nasiba Chowdhury wedi ymgymryd â rôl therapydd galwedigaethol digartrefedd y bwrdd iechyd, gan weithio ochr yn ochr â thechnegydd therapi galwedigaethol, i gefnogi pobl drwy edrych ar wahanol agweddau ar eu bywydau bob dydd.
Maent yn ffurfio tîm Therapi Galwedigaethol Iechyd Digartref o fewn prosiect 360 CNPT Abertawe.
“Y syniad yw gweithio gyda phobl sydd ag anghenion sy’n gorgyffwrdd heb eu diwallu i oresgyn ac atal digartrefedd,” meddai Nasiba.
“Byddwn yn darparu dull 360 i bob person trwy gydweithio ar eu cyfer.
“Byddwn yn cydweithio â sawl asiantaeth mewn ffordd amlddisgyblaethol i helpu i ddiwallu anghenion pobl a’u cefnogi i gael llety priodol.
“Rydyn ni eisiau iddyn nhw nid yn unig gynnal llety a goroesi ond hefyd ffynnu.”
Rhan o rôl Nasiba fydd datblygu'r broses atgyfeirio a goruchwylio a rheoli atgyfeiriadau i'r gwasanaeth.
Bydd y technegydd therapi galwedigaethol Paul Hunt yn cefnogi Nasiba gyda chynnal asesiadau ac ymyriadau.
Mae therapyddion galwedigaethol yn cael eu hyfforddi i alluogi pobl i oresgyn heriau amrywiol er mwyn byw bywydau mwy annibynnol.
Ychwanegodd Nasiba: “Rydym yn canolbwyntio ar weithgareddau ystyrlon ac yn edrych ar yr heriau y mae pobl yn eu cael wrth gwblhau'r pethau maen nhw eisiau, angen neu'n gorfod eu gwneud trwy gydol eu diwrnod.
“Gall pobl sy’n profi digartrefedd fod ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth. Maent yn aml yn profi problemau iechyd corfforol a meddyliol ac anawsterau defnyddio sylweddau.
“Rydym yn gwerthfawrogi cryfderau pobl ac yn defnyddio dull person-ganolog, seiliedig ar gryfderau i'w galluogi i oresgyn heriau fel y gallant wneud y pethau sy'n ystyrlon iddynt, mor annibynnol â phosibl.
“O fewn digartrefedd gallem fod yn cefnogi pobl gydag amrywiaeth o weithgareddau, a allai ymwneud â’u gofal personol, cael mynediad at wasanaethau iechyd, rheoli eu harian, meithrin sgiliau a threfn arferol. Mae wir yn dibynnu ar beth yw anghenion y person a beth maen nhw eisiau gweithio arno.
“Gallwn ddarparu asesiadau ac ymyriadau arbenigol a fydd yn helpu i lywio argymhellion gan gynnwys, er enghraifft, llety priodol a lefel y cymorth y gallai fod ei angen.”
Bydd y tîm yn gweithio ochr i ochr ag elusennau fel The Wallich, Crisis, Barod, Include a Chyngor Ffoaduriaid Cymru.
Un o nodau'r prosiect yw cysylltu gwasanaethau ac asiantaethau fel y gallant gydweithio i wella'r cymorth sydd ar gael i bobl.
“Fe’i datblygwyd gyda’r syniad o gydweithio i ddarparu gwasanaeth cyfannol a phontio’r bwlch rhwng gwasanaethau,” meddai Nasiba.
“Mae gweithio i’r bwrdd iechyd yn fy ngalluogi i gael mynediad at yr ystod eang o wasanaethau y mae’n eu darparu, gan bontio’r bwlch rhwng gwasanaethau iechyd a thrydydd sector gobeithio.
“Mae rhai o'r asiantaethau sy'n rhan o'r prosiect yn wasanaethau y mae pobl sy'n profi digartrefedd yn cael mynediad rheolaidd iddynt felly gallwn ddefnyddio eu sylfaen, eu hadnoddau a'u harbenigedd i gynnal asesiadau.
“Trwy weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau ac asiantaethau eraill, gallwn fabwysiadu dull allgymorth sy’n ei gwneud hi’n haws ymgysylltu â phobl a meithrin perthynas â nhw a gwasanaethau.
“Rydym hefyd yn gallu sefydlu presenoldeb yn y gymuned ddigartref i sicrhau ein bod yn wasanaeth hygyrch.”
Mae gan rai o'r elusennau dan sylw gyfleusterau sy'n efelychu amgylchedd cartref, fel cegin neu ystafell ymolchi, felly mae'r tîm yn gallu cynnal asesiadau yno - lle gall pobl fod yn fwy cyfforddus.
Dywedodd Nasiba nad nod y prosiect yn unig oedd helpu pobl i ddod o hyd i gartrefi ond sicrhau eu bod yn byw bywydau ystyrlon yn eu cartrefi newydd.
“Rwy’n meddwl bod y prosiect yn mynd i gael effaith gadarnhaol iawn,” meddai.
“Mae’n newydd ac yn gyffrous iawn. Er ei fod yn y camau cynnar o ddatblygu, mae eisoes wedi cael derbyniad da.
“Gobeithio y byddwn yn parhau i symud ymlaen a datblygu a darparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i helpu pobl sy’n profi digartrefedd.”
Dywedodd Kristel Davies, therapydd galwedigaethol sy’n arwain yr ardal leol: “Mae’r tîm wedi bod yn gwneud cysylltiadau ac yn arddangos y gwasanaeth o fewn y bwrdd iechyd i wella llwybrau a hygyrchedd gwasanaethau ar gyfer y grŵp cleifion hwn.
“Mae cael therapi galwedigaethol i gefnogi’r rhai sy’n profi neu mewn perygl o fod yn ddigartref yn ddatblygiad cyffrous iawn y mae mawr ei angen ym Mae Abertawe.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.