Mae myfyrwyr nyrsio yn cael eu hysbrydoli i ystyried gyrfa mewn gofal sylfaenol fel rhan o brosiect newydd sy'n digwydd ym Mae Abertawe.
Gall myfyrwyr nyrsio Prifysgol Abertawe bellach gwblhau lleoliad sy'n rhoi profiad iddynt o weithio mewn practis meddyg teulu.
Mae'r prosiect wedi'i wneud yn bosibl gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol y bwrdd iechyd, Prifysgol Abertawe a hwyluswyr addysg ymarfer.
Yn y llun: Uwch ymarferydd clinigol Meddygfa Glan yr Afon a rheolwr nyrsio, Nicola Wallis.
Mae’r Academi yn helpu i ddatblygu’r gweithlu o fewn gofal sylfaenol, gan gynnwys meddygon teulu, fferyllwyr, optometryddion, deintyddion, nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a mwy.
Mae lleoliadau nyrsys israddedig mewn practisau meddygon teulu wedi bod yn gyfyngedig yn flaenorol.
Nod y prosiect yw cynyddu nifer y lleoliadau sydd ar gael.
Croesawodd Meddygfa Glan yr Afon ym Mhort Talbot un o'r myfyrwyr nyrsio cyntaf i gwblhau lleoliad.
Dywedodd Nicola Wallis, uwch ymarferydd clinigol a rheolwr nyrsio yn y feddygfa: “Mae gofal sylfaenol wedi bod yn faes lle mae’n bosibl nad oedd myfyrwyr nyrsio yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd gan nad oedd erioed yn rhan o’r rhaglen myfyriwr nyrsio.
“Mae’r myfyrwyr yn cael eu dyrannu i bractisau ar gyfer eu lleoliadau gan y brifysgol.
“Roedd gennym ni fyfyriwr yn ein practis yn ddiweddar, ac roedd yn wych.
“Mae cymryd yr amser i ddysgu’r myfyrwyr a dangos iddyn nhw beth rydyn ni’n ei wneud wedi bod yn beth mawr gan nad ydyn ni wedi ei wneud o’r blaen, ond mae’n wych trosglwyddo’r sgiliau i’r genhedlaeth nesaf.
“Rwy’n meddwl y bydd darparu’r cyfle hwn yn helpu i roi mewnwelediad gwirioneddol dda i fyfyrwyr i ba fath o yrfa anhygoel y gallwch ei chael mewn gofal sylfaenol fel nyrs mewn practis meddyg teulu.”
Ychwanegodd Rhian Jones, rheolwr yr Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol: “Mae rhoi profiad uniongyrchol mewn ymarfer cyffredinol i fyfyrwyr nyrsio yn allweddol i ysbrydoli cenhedlaeth nesaf y gweithlu gofal sylfaenol.
“Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle gwerthfawr i brofi a gweld y rôl hanfodol y mae nyrsys practis cyffredinol yn ei chwarae mewn gofal cleifion.”
Mae'r lleoliadau yn rhedeg am chwe wythnos, gyda myfyrwyr yn treulio dydd Llun i ddydd Gwener yn y practis.
Dywedodd Georgina Clee, nyrs practis ym Meddygfa Glan yr Afon: “Roedd ein myfyriwr yn ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol a dyma oedd ei lleoliad cyntaf un, felly i ddechrau fe wnaethom ni ymdrin â sgiliau nyrsio sylfaenol.
“Fe wnaethon ni ddangos iddi sut i wneud pigiadau mewngyhyrol ac isgroenol, recordiad pwysedd gwaed ac electrocardiogramau, neu ECGs.
“Yna wrth i’r lleoliad fynd yn ei flaen fe wnaethom edrych ar fesuriadau mynegai pwysedd ffêr-brachial, sy’n gwirio am bibellau gwaed sydd wedi blocio neu gulhau, a siarad â hi am sut rydyn ni’n gwneud y rheini a pham rydyn ni’n eu gwneud.
“Cawsom adborth gwych ganddi. Roedden ni i gyd yn fyfyrwyr unwaith ac rydw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn ein bod ni’n rhoi rhywbeth yn ôl i’r genhedlaeth nesaf.”
Mae disgwyl i fwy o fyfyrwyr gwblhau'r lleoliadau ym Meddygfa Glan yr Afon, yn ogystal â phractisau meddygon teulu eraill ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Y gobaith yw y bydd y rhaglen hyd yn oed yn cael ei hehangu fel y gallai myfyrwyr uwch elwa hefyd.
“Rydym yn gobeithio y bydd yn dod yn rhaglen dreigl ac efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cael dwy ar yr un pryd,” ychwanegodd Nicola.
“Rydym hefyd yn gobeithio cael rhai myfyrwyr uwch hefyd, efallai myfyrwyr ail neu drydedd flwyddyn, lle gallent brofi ychydig mwy.
“Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig bod yn rhan o’r rhaglen oherwydd bydd myfyrwyr yn dysgu cymaint trwy ei brofi’n uniongyrchol.”
Dywedodd Helen Beckett, uwch ddarlithydd mewn nyrsio plant ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i’n myfyrwyr nyrsio, lle byddant yn cael y cyfle i brofi gofal sylfaenol a gweithio ochr yn ochr â’r tîm amlddisgyblaethol, gan gefnogi defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd yn y gymuned.
“Mae’r dull cydweithredol rhyngbroffesiynol hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu ystod eang o sgiliau clinigol a datblygu eu gwybodaeth am ofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.”
Dywedodd Clare James, Dirprwy Bennaeth Nyrsio Gofal Sylfaenol Bae Abertawe: “Mae gan nyrsys practis cyffredinol ystod eang o sgiliau ac arbenigedd i gefnogi lleoliadau nyrsio cyn cofrestru.
“Maent yn darparu gwasanaethau i gleifion ar draws eu hoes gyfan gyda ffocws ar ddiogelu iechyd a hybu iechyd.
“Mae codi proffil nyrsio gofal sylfaenol wrth i ni barhau i ddod â gofal yn nes adref a chyflwyno nyrsys newydd i ymarfer cyffredinol yn gyfnod cyffrous iawn i ni ac rydym wedi croesawu’r cyfle hwn.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.