Mae grŵp o feddygfeydd Meddyg Teulu yn Abertawe yn helpu i wella iechyd meddwl a lles pobl ifanc drwy gynnig cymorth sydd wedi’i deilwra ar eu cyfer.
Mae Prosiect Llesiant Pobl Ifanc Penderi (PYPWP) yn cefnogi rhai naw i 17 oed trwy gynnig sesiynau iddynt lle gallant siarad yn agored am eu hiechyd meddwl.
Darperir y sesiynau gan Grŵp Cydweithredol Clwstwr Lleol Penderi (LCC), ac mae’r sesiynau hyd yn oed yn cael eu hymestyn i unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan les emosiynol y person ifanc, fel rhiant neu ofalwr.
Yn y llun: Dr Sowndarya Shivaraj a chydlynydd y prosiect Demi Butler.
Mae'r Prosiect Llesiant Pobl Ifanc Penderi yn rhoi lle diogel i bob person siarad am yr hyn y mae'n mynd drwyddo ac yn rhoi cymorth a chyngor manwl iddynt.
Wedi'i ddarparu gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (SCVS), gall staff wedyn asesu a oes angen eu hatgyfeirio at wasanaethau mwy arbenigol i gael cymorth pellach.
Dywedodd Helen Foster, sy’n rheoli’r prosiect: “Fe wnaethon ni ddarganfod bod pobl ifanc yn teimlo na fyddai apwyntiad gyda meddyg teulu yn rhoi digon o amser i siarad am unrhyw drawma neu gamdriniaeth y gallent fod wedi’i brofi.
“Roedden nhw hefyd yn teimlo bod angen adeiladu perthynas fel y gallen nhw fod mewn sefyllfa gyfforddus i drafod pethau.
“Rydym yn aml yn gweld y gall elfennau fel bod yn ofalwr ifanc, bod â rhiant â phroblemau iechyd neu gael rhieni ar wahân, ymhlith pethau eraill effeithio ar iechyd a lles emosiynol y person ifanc.
“Rydym yn cynnig cefnogaeth iddyn nhw, yn ogystal â’u teulu – a fyddai’n cael eu gweld fel cleifion ar wahân a hefyd yn cael cynnig hyd at bedair sesiwn.
“Nid yw pob person ifanc wedi cael profiad trawmatig ond yn aml mae yna nifer o ddigwyddiadau bach sydd gyda’i gilydd yn cael effaith eithaf sylweddol arnyn nhw.
“Ar adegau eraill gallant fod yn effeithiau eithaf sylweddol yr ydym wedi’u normaleiddio mewn cymdeithas, fel rhieni’n gwahanu, bwlio neu brofedigaeth nain a thaid.”
Cynhelir sesiynau yn y meddygfeydd Meddyg Teulu o fewn y Grŵp Cydweithredol Clwstwr Lleol, sef Meddygfa Brynhyfryd, Canolfan Feddygol Cheriton, Canolfan Feddygol Cwmfelin, Grŵp Meddygol Fforestfach (gan gynnwys meddygfa Dr Bensusan a meddygfa Dr Powell) a Meddygfa Manselton.
Maent yn rhoi cyfle i drafod profiadau personol fel y gellir helpu’r person ifanc i geisio nodi sbardunau penodol.
Dywedodd Demi Butler, cydlynydd y prosiect: “Trwy ddarparu amgylchedd diogel a meithrin perthynas gref, mae hyn yn caniatáu amser a lle i’r claf archwilio a thrafod yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
“Rwy’n teilwra cymorth i anghenion unigol y plentyn neu’r person ifanc, gan ddarparu dull cyfannol sy’n archwilio ac yn ceisio gwella eu llesiant meddyliol, corfforol, emosiynol, cymdeithasol ac ysbrydol unigol.”
Tra bod y rhai sydd angen cymorth mwy arbenigol yn cael eu hatgyfeirio, nod y gwasanaeth yw lleihau nifer yr atgyfeiriadau gan feddygon teulu at wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed (CAMHS).
“Mae’r gwasanaeth yn lleihau nifer yr atgyfeiriadau yn ei gyfanrwydd,” ychwanegodd Helen.
“Mae’n ymwneud â dargyfeirio pobl ifanc oddi wrth ymyrraeth arbenigol na fyddai wedi bod yn briodol iddyn nhw.”
Gwneir atgyfeiriadau i'r gwasanaeth gan y meddygfeydd Meddyg Teulu o fewn y Grŵp Cydweithredol Clwstwr Lleol a gallant ddod gan nyrsys yn ogystal â meddygon teulu.
Gyda'r Prosiect Llesiant Pobl Ifanc Penderi yn rhoi cyfle i bobl ifanc drafod eu hiechyd meddwl yn fwy manwl, mae'n rhoi mwy o amser i feddygon teulu weld mwy o gleifion.
Dywedodd Helen: “Rydym bron yn gwneud brysbennu iechyd meddwl i ddeall difrifoldeb anghenion y person hwnnw ar y foment honno.
“Er efallai nad oes gan feddyg teulu yr holl wybodaeth honno wrth law, trwy ein cymorth mwy manwl a therapiwtig rydym yn gallu datgelu llawer mwy o wybodaeth.
“Rydyn ni'n treulio'r sesiwn gyntaf yn ceisio eu deall nhw ac yna'n cymryd yr awenau i ddeall beth sydd wedi dod â nhw i'r pwynt hwn.”
Mae cael y gwasanaeth sydd ar gael yn y chwe meddygfa Meddyg Teulu eisoes wedi helpu llawer o bobl ifanc a’u teuluoedd, sydd wedi disgrifio’r cymorth fel un hanfodol bwysig.
“Rydym yn cael ymatebion twymgalon iawn gan rieni a phobl ifanc sy'n dweud wrthym nad ydyn nhw'n gwybod beth fydden nhw wedi'i wneud heb y gwasanaeth,” ychwanegodd Helen.
“Mae llawer yn dweud wrthym pa mor dda y maent wedi canfod yr ymyriad, pa mor ddefnyddiol y mae wedi bod fel rhiant a sut mae’r effaith y mae wedi’i chael ar eu plentyn wedi bod yn hollbwysig.
“Mae’n creu cefnogaeth bwrpasol i’r person hwnnw a’i deulu.
“Mae’r ffaith ei fod yn gyswllt rhwng y meddygfeydd Meddyg Teulu a CAMHS yn fonws gwirioneddol i wneud y llwybr yn symlach i deuluoedd.”
Dywedodd Dr Sowndarya Shivaraj, arweinydd Meddygon Teulu ar gyfer Grŵp Cydweithredol Clwstwr Lleol: “Nod y Prosiect Llesiant Pobl Ifanc Penderi yw adnabod pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl a chynnig cefnogaeth iddynt mewn modd amserol.
“Ers i ni fod yn cefnogi’r prosiect hwn yn ein Grŵp Cydweithredol Clwstwr Lleol, mae wedi helpu i wella iechyd meddwl a lles ein pobl ifanc drwy gynnig ymyriadau a chymorth wedi’u teilwra.
“Mae nifer y derbyniadau damweinion ac achosion brys gan bobl ifanc o dan 18 oed sydd wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ers pandemig Covid.
“Mae traean o broblemau iechyd meddwl mewn oedolaeth yn uniongyrchol gysylltiedig ag adwaith niweidiol yn ystod plentyndod.
“Mae mor bwysig nodi’r bobl ifanc hyn a allai fod yn teimlo’n ynysig neu wedi’u datgysylltu â phroblemau iechyd meddwl a chynnig cymorth iddynt yn gynnar er mwyn atal yr effaith andwyol hirdymor.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.