Gall menywod nawr ofyn am gyflenwad o dabledi atal cenhedlu o fferyllfeydd cymunedol ym Mae Abertawe tra byddant yn trefnu datrysiad tymor hwy.
Mae'r gwasanaeth atal cenhedlu newydd yn cynnig cyflenwad tri mis o'r bilsen rheoli geni, desogestrel, am ddim.
Mae'n golygu y gellir atal beichiogrwydd digroeso tra bod merched yn dod o hyd i ddull atal cenhedlu mwy parhaol.
Gallai hyn gynnwys mewnblaniad, dyfais fewngroth - a elwir yn coil - neu barhad o'r bilsen, ymhlith opsiynau eraill.
Mae'r gwasanaeth ar gael ym mhob un o'r 92 fferyllfa gymunedol ar draws rhanbarth Bae Abertawe.
Bydd yn rhedeg ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Atal Cenhedlu Hormonaidd Brys presennol, sy’n cynnig pilsen atal cenhedlu brys.
Dywedodd Sam Page, Pennaeth Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: “Mae’r gwasanaeth hwn yn helpu i bontio’r bwlch tra bod ateb mwy hirdymor yn cael ei sicrhau.
“Os yw claf yn defnyddio dull atal cenhedlu am y cyfnod cychwynnol hwnnw o dri mis, mae’n fwy tebygol y bydd wedyn yn symud ymlaen i ddull mwy parhaol.
“Os bydd claf yn gofyn i’w fferyllydd ddarparu’r Gwasanaeth Atal Cenhedlu Hormonaidd Brys, bydd yn cael cynnig y Gwasanaeth Atal Cenhedlu pontio a chychwyn cyflym ar yr un pryd.
“Bydden nhw’n dal i dderbyn y bilsen atal cenhedlu brys, ond fe fyddan nhw wedyn yn cael cynnig y cyflenwad tri mis wrth symud ymlaen.”
Nid oes rhaid i fenywod aros i gael cynnig y gwasanaeth newydd gan eu fferyllydd - gallant ymweld â'u fferyllfa leol a holi amdano unrhyw bryd.
Daeth y syniad ar gyfer y gwasanaeth yn dilyn adolygiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru o wasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru a benderfynodd y dylai atal cenhedlu geneuol fod ar gael trwy fferyllfeydd cymunedol.
“Mae fferyllfeydd cymunedol yn lle da i ddarparu’r gwasanaeth hwn gan eu bod yn hygyrch o fewn cymunedau lleol,” ychwanegodd Sam.
“Mae fferyllwyr wedi cael hyfforddiant ychwanegol i allu darparu’r gwasanaeth.”
Bydd angen i fenywod gael ymgynghoriad preifat gyda'u fferyllydd cyn y gellir rhoi desogestrel iddynt.
Mae gan bob fferyllfa gymunedol ledled Bae Abertawe ystafell ymgynghori breifat.
Dywedodd Sam: “Bydd meini prawf cynhwysiant a gwaharddiadau ar gyfer y gwasanaeth, y bydd y fferyllydd yn mynd drwyddynt yn ystod yr ymgynghoriad.
“Byddant hefyd yn asesu mynegai màs corff y claf ac yn gwirio eu pwysedd gwaed. Gall fferyllwyr hefyd gyfeirio cleifion at wasanaethau iechyd rhywiol eraill ar gyfer sgrinio iechyd rhywiol, ymhlith gwasanaethau eraill.
“Bydd crynodeb o’r ymgynghoriad wedyn yn cael ei anfon at eu meddygfa i wneud yn siŵr bod gan eu meddyg teulu gofnod cywir o’r cyflenwad tri mis cychwynnol o feddyginiaeth.
“Dylai’r cyflenwad fod yn ddigon i glaf wedyn sicrhau cyflenwad parhaus unwaith y bydd wedi gorffen.
“Rydyn ni eisiau i bobl wybod bod y gwasanaeth hwn ar gael iddyn nhw yn y cyfamser wrth iddyn nhw nodi’r ateb hirdymor hwnnw.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.