Mae pobl yn cael eu cefnogi gyda'u problemau iechyd meddwl fel rhan o fenter newydd sydd wedi'i hysbrydoli gan y gwasanaeth ward rhithwir.
Mae Grŵp Cydweithredol Clwstwr Lleol Cwmtawe (LCC) wedi cyflwyno menter iechyd meddwl newydd, yn sgil llwyddiant ei ward rithwir.
Mae wedi ailadrodd y model ward rithwir, o gael tîm yn gweithio gyda'i gilydd i reoli gofal cleifion, i helpu i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl.
Ar ôl dechrau ym Meddygfa Strawberry Place yn Nhreforys, mae’r ward rithwir iechyd meddwl wedi adeiladu ar y cymorth sydd ar gael yn y feddygfa drwy ei hyb iechyd meddwl.
Yn y llun (rhes gefn): Rheolwr achos LCC Cwmtawe ar gyfer Teulu a Therapi Rachel Butt, rheolwr datblygu busnes a gweithredu'r LCC Debra Morgan, cydlynydd practis Strawberry Place Susan Tutans. (Rhes flaen): ymarferwyr lles yr LCC Sally-Anne Harris a Lindsey Dewitt a gweithiwr anghenion cymhleth yr LCC Cara Lougher.
Mae'n dod â gweithwyr proffesiynol megis ymarferwyr llesiant, gweithwyr anghenion cymhleth, rhagnodwyr cymdeithasol a staff practis a chlwstwr ynghyd, yn ogystal â chydweithwyr o wasanaethau iechyd meddwl a chymunedol eraill, gan gynnwys Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA).
Yn debyg i ward rithwir, mae'r tîm aml-asiantaeth yn trafod yn gyfrinachol sut i gynllunio a rheoli gofal pob claf dienw i sicrhau eu bod yn cael cymorth priodol ar gyfer eu hanghenion iechyd meddwl a lles.
Dywedodd Nicola Baxter, rheolwr practis Meddygfa Strawberry Place a rheolwr datblygu comisiynu’r clwstwr: “Mae gan y clwstwr ganolfan iechyd meddwl a lles yn y feddygfa.
“Mae gennym ni wasanaethau cwnsela, therapi chwarae, rhagnodwr cymdeithasol, gweithiwr anghenion cymhleth ac ymarferwyr iechyd meddwl a lles yn gweithio oddi yno.
“Mae’r clwstwr wedi buddsoddi mewn iechyd meddwl ac mae ein hyb wedi bod yn llwyddiannus iawn.
“Roeddem yn teimlo y byddai’n fuddiol dod â gweithwyr proffesiynol ynghyd a chael tîm aml-asiantaeth iechyd meddwl.
“Mae’r tîm yn cyfarfod bob pythefnos ac ar hyn o bryd yn cefnogi cleifion Meddygfa Strawberry Place.
“Rydym yn trafod cleifion dienw a allai fod wedi derbyn cymorth gan ofal eilaidd neu wasanaethau iechyd meddwl, neu a allai fod wedi cael eu cyfeirio at fathau eraill o gymorth, ond nad yw eu hanghenion wedi cael eu diwallu o hyd.
“Yna rydym yn gweithio gyda’n gilydd i geisio ymgysylltu â’r cleifion a’u cyfeirio i’r lle iawn.”
Mae'r tîm yn cyfarfod i olrhain cynnydd gofal pob claf a drafodwyd, tra'n cadw eu manylion yn ddienw i adlewyrchu cyfrinachedd.
Dywedodd Debra Morgan, rheolwr datblygu busnes a gweithredu LCC Cwmtawe: “Wrth edrych ar lwyddiant ward rithiol bresennol Cwmtawe, yn y bôn rydym wedi efelychu’r model hwn i ddatblygu tîm aml-asiantaeth sy’n gweithio gyda’n gilydd i gefnogi cleifion â phroblemau iechyd meddwl.
“Mae wedi bod yn hynod ddefnyddiol i’r staff sy’n gweithio ar draws y clwstwr sydd â chyfrifoldeb am iechyd meddwl ddod at ei gilydd i drafod achosion unigol ac i weithio allan y ffordd orau ymlaen i gleifion yn dibynnu ar eu hanghenion penodol.
“Mae’n helpu i wneud yn siŵr ein bod ni ar y trywydd iawn a’n bod ni wedi gwneud popeth posib i gefnogi ein cleifion.
“Mae hefyd yn ein helpu i sicrhau bod yna ddull cyfannol o gefnogi pob claf i wneud yn siŵr nad oes neb yn llithro drwy’r rhwyd.”
Mae'r tîm hefyd yn gwahodd gwasanaethau perthnasol, megis Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) a'r gwasanaeth cymorth symbylyddion, yn ogystal ag elusennau fel Mind i'r cyfarfod.
Ychwanegodd Nicola: “Gall gwahodd gwasanaethau a sefydliadau eraill i fynychu ein cyfarfodydd helpu i roi gwybod i ni am lwybrau atgyfeirio eraill a llwybrau cymorth i gleifion.
“Pan fyddwn yn trafod opsiynau a llwybrau ar gyfer gofal cleifion, mae ein cydweithwyr o CGGA yn ymwybodol iawn o’r gwasanaethau a all gefnogi ein cleifion orau.
“Fe fyddan nhw’n ymwybodol o sefydliadau sy’n gallu cynnig cymorth priodol i bobol hefyd.”
Unwaith y bydd y tîm wedi nodi ymyriadau priodol ar gyfer y cleifion, cânt eu hatgyfeirio i gael cymorth parhaus.
Dywedodd Mike Garner, arweinydd LCC Cwmtawe: “Mae’r syniad hwn wedi deillio o’r gwasanaethau iechyd meddwl a lles gwych a ddatblygwyd o fewn y clwstwr.
“Dyma’r cam nesaf ymlaen o hynny, wrth ddod â’r holl wasanaethau at ei gilydd.
“Ar ôl cael ein cyflwyno ym Meddygfa Strawberry Place, hoffem weld hyn yn y pen draw yng ngweddill ein practisau.”
Dywedodd Sharon Miller, Cyfarwyddwr Cyswllt Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: “Yn ogystal â’r dull arloesol hwn, mae’r bwrdd iechyd yn gweithio’n agos gyda Chlwstwr Cwmtawe i gynyddu mynediad at arbenigedd seicoleg gymunedol.
“Y gobaith yw y bydd yr ychwanegiad gwerthfawr hwn i’r clwstwr yn cael ei wneud yn y misoedd nesaf, gan gryfhau’r agwedd ymhellach.”
Gall pobl a all fod yn profi problemau iechyd meddwl gysylltu â'u meddygfa am gymorth.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.