Lansiwyd Gwasanaeth Noddfa newydd y tu allan i oriau a all achub bywydau er mwyn helpu pobl i daclo problemau iechyd meddwl mewn amgylchedd diogel a allai leihau derbyniadau i'r ysbyty.
Mae’r Gwasanaeth Noddfa Iechyd Meddwl yn wasanaeth newydd sbon a ddarperir gan elusen iechyd meddwl Hafal a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe o dan Bartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg.
Mae’r gwasanaeth yn bwriadu darparu cymorth ymarferol, therapiwtig a chyfannol sy’n canolbwyntio ar unigolyn er mwyn cefnogi pobl sydd yn agored i argyfwng iechyd meddwl drwy ddarparu ystod o ymyriadau i leihau derbyniadau i'r ysbyty a lleihau’r risg o niwed i bobl yn eu cartrefi.
Bydd y tîm yn darparu arweiniad ac ymyriadau cynnar sydd yn bwriadu cadw pobl yn iach, y tu allan i oriau gweithredu gwasanaeth traddodiadol, ac yn cynnig lleoliad arall nad yw’n glinigol lle y gall pobl dderbyn mynediad cynnar i gymorth ac osgoi dibynnu ar wasanaethau iechyd meddwl craidd.
Ar agor rhwng 6am i 3pm, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, ei fwriad yw taclo anawsterau neu orbryderon sydd yn ymwneud â’r achos Coronafeirws, straen a/neu orbryder, iselder, pryderon cyllid yn ogystal â bod yn lloches i'r rheini sydd yn dioddef o drais yn y cartref neu iechyd meddwl dirywiol o ganlyniad i ystod o ffactorau.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd yn cynnig amgylchedd croesawgar, gyda lolfa er mwyn ymlacio, cegin a man bwyta sydd yn darparu ciniawau, yn ogystal â chawod a chyfleusterau ymolchi.
Hefyd mae yna fannau preifat ar gyfer y rhai sydd angen amser tawel neu gefnogaeth 1-i-1.
Caiff diogelwch a lles y cleient eu hasesu’n llawn cyn iddo fynd adref, gydag atgyfeiriadau at wasanaethau eraill fel y bo’n briodol.
Bu Michelle Waldman, cynrychiolydd defnyddwyr gwasanaeth y prosiect, yn ymwneud â sefydlu’r Gwasanaeth Noddfa.
Meddai: “Rwy’n meddwl bydd y gwasanaeth hwn yn anhygoel i helpu’r rhai nad ydyn nhw’n ddigon sâl i dderbyn cymorth gan y Tîm Datrys Argyfwng a Thriniaeth Cartref ac sydd angen cymorth na all y gwasanaethau brys ei gynnig. Gall y 2 awr hynny achub bywyd.”
Dywedodd Beverley Patterson, Cynrychiolydd Gofalwyr: “Cymerais ran mewn sefydlu’r Gwasanaeth Noddfa newydd gan fod gan fy mab a fy merch broblemau iechyd meddwl. Mae’r Gwasanaeth yn lle y gallan nhw fynd iddo am gymorth. Y peth pwysicaf yw y bydd y Noddfa ar gael y tu allan i oriau arferol. Rwy’n falch iawn fy mod wedi bod yn rhan o sefydlu’r gwasanaeth hwn.”
Dywedodd Lianne Martynski, Pennaeth Gwasanaeth Hafal: “Fel elusen sydd yn cael ei harwain gan aelodau, rydym ni’n gwybod o brofiad pa mor bwysig yw i bobl mewn argyfwng fynd i le diogel sydd yn gefnogol, yn therapiwtig ac yn barchus.
“Rydym yn falch o allu cynnig gwasanaeth o’r fath gyda’n partneriaid ledled Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, yn darparu’r cyfleuster diweddaraf lle gall pobl mewn argyfwng iechyd meddwl ddechrau gwella a hunanreoli.
“Mae’r Gwasanaeth Noddfa Iechyd Meddwl yn cynnig cymorth a chyngor drwy ystod o ymyriadau mewn ffordd groesawgar a chartrefol. Mae’n un o’r gwasanaethau mwyaf arloesol o’i fath, ac rydym yn gobeithio y bydd o fudd i les ein cleientiaid.”
Oherwydd achos COVID-19, mae’r Gwasanaeth wedi bod yn gweithredu fel gwasanaeth cymorth dros y ffôn, ond yn bwriadu cynnal darpariaethau wyneb yn wyneb yn ei safle yn Llansamlet o ganol mis Gorffennaf, gyda’r mesurau diogelwch COVID perthnasol ar waith.
Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth, cysylltwch â Hafal ar e-bost hafal@hafal.org neu ffoniwch 01792 816600.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.