Bellach mae gan gleifion sy'n aros am driniaeth gynaecoleg o'r enw modrwy pessary ail-ffitio opsiwn i gael y driniaeth yn nes at eu cartrefi.
Er mwyn helpu i leihau amseroedd aros, mae'r driniaeth, sy'n helpu i reoli symptomau llithriad organau'r pelfis, bellach yn gallu cael ei chynnal mewn nifer o bractisau meddygon teulu ar draws Bae Abertawe.
Gall cleifion ddewis cael eu hapwyntiad mewn practis meddyg teulu o fewn eu clwstwr neu aros ar y rhestr aros i gael eu gweld mewn ysbyty.
Os ydych chi ar y rhestr aros ar hyn o bryd, bydd practis meddyg teulu sy'n cymryd rhan yn y prosiect yn cysylltu â chi.
Efallai nad dyma’r practis yr ydych wedi cofrestru ag ef ond bydd yn bractis lleol i chi, wedi’i leoli yn eich clwstwr.
Unwaith y bydd y practis yn cysylltu â chi, gallwch ddweud wrthynt sut yr hoffech fynd ymlaen â'ch apwyntiad.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.