Mae grŵp o feddygfeydd yng Nghwm Tawe Isaf yn gofyn i’w gleifion am unrhyw awgrymiadau ar gyfer mentrau a allai helpu i frwydro yn erbyn unigrwydd.
Mae'r symudiad, a gychwynnwyd gan Glwstwr Cwmtawe, yn cyd-daro ag wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (9-15 Mai).
Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl, sy’n goruchwylio’r wythnos, wedi dewis unigrwydd fel ei thema eleni ac mae’n annog pobl ledled y wlad i fyfyrio ar unigrwydd a sut mae’n effeithio ar iechyd meddwl.
Mae unigrwydd wedi dod yn fwy o broblem yn ystod y pandemig gyda chymaint o bobl yn profi unigedd.
Mae’r clwstwr, sy’n cynnwys Grŵp Meddygol Cwmtawe, Meddygfa Strawberry Place a Meddygfa Llansamlet, hefyd yn cydnabod unigrwydd fel bygythiad mawr i iechyd a llesiant cyffredinol pobl gydag unigrwydd hirdymor yn gysylltiedig â phroblemau fel iselder a phryder.
O ganlyniad, gofynnir i gleifion ysgrifennu unrhyw syniadau a allai helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd, a’u postio mewn blychau awgrymiadau mewn fferyllfeydd a meddygfeydd yng Nghlydach, Treforys (Strawberry Place, Sway Road a New Cross), a meddygfeydd Llansamlet.
Dywedodd Mike Garner, Arweinydd Clwstwr Cwmtawe: “Bydd y clwstwr yn ceisio cael awgrymiadau gan gleifion mewn meddygfeydd a fferyllfeydd ar ba fentrau y gellid eu rhoi ar waith i helpu i oresgyn unigrwydd ar draws Cwmtawe.
“Rydym yn rhoi blychau awgrymiadau mewn practisau ac yn annog pobl i roi ysgrifbin ar bapur ac awgrymu pa weithgareddau cymunedol yr hoffent eu gweld yn cael eu cyflwyno’n lleol.
“Rydym eisoes yn cefnogi dosbarthiadau dawns i bobl dros 65 oed, sydd yn ogystal â bod yn ffordd wych o wella eich ffitrwydd cyffredinol, yn cynnig ffordd wych o gael hwyl a chymdeithasu.
“Ac rydyn ni’n gobeithio lansio ein Parkrun y mis nesaf, gyda llawer o gyfleoedd ar gael i stiwardiaid gwirfoddol ynghyd â’r cyfle rheolaidd i gerdded neu redeg 5k bob wythnos gyda ffrindiau hen a newydd.”
Dywedodd Dr Iestyn Davies, meddyg teulu gyda Grŵp Meddygol Cwmtawe: “Yn anffodus mae unigrwydd yn ymddangos yn broblem gynyddol, diolch i raddau helaeth i’r pandemig a’r boblogaeth sy’n heneiddio.
“Gall unigrwydd arwain at risg uwch o rai problemau iechyd meddwl, gan gynnwys iselder, gorbryder, hunan-barch isel, problemau cysgu a mwy o straen.
"Mae'n hollbwysig, felly, ein bod yn gwneud ein gorau i fynd i'r afael â'r broblem yma yng Nghwmtawe."
Dywedodd Mark Rowland, Prif Weithredwr y Sefydliad Iechyd Meddwl: “Rydym yn gobeithio y bydd thema eleni o unigrwydd yn taro tant gyda llawer ohonom a oedd yn teimlo’n unig ac wedi cael trafferth trwy gydol pandemig Covid.
“Mae miliynau ohonom yn profi unigrwydd o bryd i’w gilydd. Gwyddom fod rhai pobl mewn mwy o berygl o brofi unigrwydd ac mae’r dystiolaeth yn dangos po hiraf y teimlwn yn unig, y mwyaf yr ydym mewn perygl o ddioddef problemau iechyd meddwl.
“Mae unigrwydd yn haeddu mwy o sylw ac rydyn ni’n galw ar bawb sydd wedi cael trafferth o ganlyniad i fod yn unig i rannu eu profiadau. Rhaid i ni weithio gyda’n gilydd – fel unigolion, fel cymdeithas a thrwy bolisi’r llywodraeth – i leihau unigrwydd ac atal problemau iechyd meddwl drwy fuddsoddi mewn mannau croesawgar, cymdeithasol a mentrau cymunedol newydd.”
I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni ewch i mentalhealth.org.uk/mhaw neu ymunwch â’r sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #IveBeenThere ac #WythnosYmwybyddiaethIechydMeddwl
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.