Byddai dianc i wlad sy'n llawn o hud y gaeaf fel arfer yn rhywbeth y gallai cleifion ysbyty ddim ond breuddwydio amdano dros y Nadolig.
Ond nawr, diolch i waith caled staff a haelioni’r gymuned ehangach, mae’r freuddwyd honno wedi dod yn wir yn Ysbyty Treforys.
Mae'r prif lun uchod yn dangos Lesley Brannigan, technegydd therapi galwedigaethol; Menna Davies, ffisiotherapydd; Claire Poole ac Una Brown, therapyddion galwedigaethol; Grace Hennell, ffisiotherapydd.
Y llynedd, agorwyd gardd newydd yn yr adrannau therapi galwedigaethol, ffisiotherapi, a llosgiadau a llawfeddygaeth blastig yno.
Cafodd llawer o'r gwaith ei wneud gan y contractwyr FP Hurley a'i Feibion o Abertawe. Mae'r ardd yn cynnwys cylchyn pêl-fasged, maes golff mini a choeden ddymuniadau lle gall cleifion ac ymwelwyr ysgrifennu eu dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Mae'n lle i gleifion adsefydlu yn yr awyr agored ac yn rhoi hwb i’w morâl gan nad yw'n teimlo fel therapi.
Nawr mae'r ardd wedi cael ei gweddnewid ar gyfer y Nadolig fel y gall cleifion a staff fynd i ysbryd yr Ŵyl ar yr adeg heriol hon.
Esboniodd y therapydd galwedigaethol Gemma Wright (yn y llun ar y chwith ): “Mae eleni wedi bod yn anodd i lawer ohonom a gyda’r Nadolig yn agosáu roedden ni eisiau gwneud rhywbeth arbennig fel adran.
“Doedden ni ddim yn siŵr a allen ni roi addurniadau yn yr ysbyty felly awgrymodd fy nghydweithwraig Tracy Cooling y dylen ni roi coeden go iawn yn yr ardd.
“Meddyliais i y gallen ni fynd gam ymhellach a gwneud yr ardal gyfan yn ardd a fyddai’n llawn o ryfeddod y gaeaf, fel y gallai cleifion a staff ddod yma i fwynhau ychydig o hwyl yr ŵyl.”
Yn dilyn apêl ar y radio a’r cyfryngau cymdeithasol, cyfrannodd busnesau lleol a’r cyhoedd yn hael drwy roi coed, garlantau ac addurniadau.
Yn y cyfamser, cyfrannodd staff therapi galwedigaethol a ffisiotherapi trwy addurno'r lle â'r holl eitemau a roddwyd.
Dywedodd Gemma fod y caredigrwydd a ddangoswyd yn gwneud iddynt deimlo’n wylaidd a'u bod yn hynod ddiolchgar i bawb a gyfrannodd.
Ychwanegodd: “Roedden ni eisiau i gleifion a staff gael lle i fynd iddo dros y Nadolig, felly hyd yn oed pe bai’n rhaid iddyn nhw fod yn yr ysbyty gallen nhw brofi peth o’r hud a’r llawenydd sydd i’w cael yr adeg hon o’r flwyddyn.”
O’r chwith i’r dde: Lesley Brannigan, technegydd therapi galwedigaethol; Carol Raddenbury, technegydd ffisiotherapi; Mandy Kyle a Janine Evans, therapyddion galwedigaethol; Clare Ford, rheolwr ffisiotherapi.
Gallwch ddarllen mwy am yr ardd yn ein datganiad blaenorol i’r wasg.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.