Neidio i'r prif gynnwy

Dynion yn cael eu hannog i gyrchu cymorth iechyd meddwl ar-lein am ddim ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion

Delwedd o Dave Muckell, Cyfarwyddwr Lads & Dads, grŵp lles meddwl dynion.

Wedi'i bostio ar ran SilverCloud

Mae gwasanaeth iechyd meddwl digidol GIG Cymru yn galw ar fwy o ddynion i gael cymorth hunangymorth wrth i ffigurau ddatgelu eu bod 2.5 gwaith yn llai tebygol na menywod o ddefnyddio ei raglenni.

Mae bron i 7,000 o ddynion wedi defnyddio SilverCloud Cymru – cyfres o raglenni ar-lein dan arweiniad sy’n seiliedig ar therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) – ers i'r gwasanaeth gael ei dreialu yn 2018.

Dros yr un cyfnod, mae bron i 18,000 o fenywod wedi elwa.

Dywedodd rheolwr prosiect CBT Ar-lein GIG Cymru, Fionnuala Clayton bod y ffigurau – a ddatgelwyd i gyd-fynd â #Tashwedd, mis ymwybyddiaeth iechyd meddwl dynion – yn awgrymu y gallai tabŵs ynghylch iechyd meddwl fod yn gwneud dynion yn amharod i geisio cymorth.


Meddai Fionnuala: “Mae dynion yn aml yn teimlo dan bwysau i drin pethau ar eu pennau eu hunain, ond mae gofalu am iechyd meddwl yn gryfder, nid yn gwendid.

“Yn anffodus, mae stigma yn dal i fod yn rhwystr i lawer. Gall SilverCloud Cymru helpu i chwalu’r rhwystr hwnnw drwy ddarparu cymorth ar-lein cyfrinachol am ddim sydd ar gael ar eich ffôn neu yng nghysur eich cartref eich hun, a heb unrhyw restrau aros.”


Mae ymchwil gan Amser i Newid Cymru yn dangos bod dynion yn llai tebygol na merched o geisio cymorth gan eu meddyg teulu ar gyfer problemau iechyd meddwl.

Mae dynion hefyd yn llai cyfforddus yn trafod eu hiechyd meddwl gyda ffrindiau a theulu, ac yn llai tebygol na merched o wybod sut i gynghori ffrind sy'n cael trafferth.

Dywedodd Dave Muckell, cyfarwyddwr grŵp lles meddwl dynion o Borthcawl, Lads & Dads: “Mae yna stigma y dylai dynion jyst fod yn ddynion, ac yn anffodus mae’r stigma yn atal dynion rhag gofyn am help.

“Ond mae’n iawn gyfaddef nad ydych chi’n iawn. Mae'n iawn i estyn allan a gofyn am gymorth. Mae gennym ni i gyd gyfle i ffynnu a mwynhau ein bywydau.”

Ymhlith y dynion sy’n defnyddio SilverCloud Cymru, sy’n cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, mae dros hanner a ymunodd eleni wedi ceisio cymorth ar gyfer iselder, gorbryder, neu gyfuniad o’r ddau.

Mae galw hefyd wedi bod am raglenni cymorth i reoli straen, gorbryder o ganlyniad i iechyd a gorbryder cymdeithasol yn 2024.

Dywedodd Fionnuala: “Rydym yn deall y gall ymestyn allan deimlo’n anodd, ond gall blaenoriaethu eich meddwl trwy gael cymorth trwy SilverCloud fod yn gam cyntaf wrth ymateb i heriau bywyd.”

Dilynwch y ddolen hon i wefan Amser i Newid Cymru.

Dilynwch y ddolen hon i dudalen Facebook Lads & Dads.

Dysgwch fwy am SilverCloud drwy ddilyn y ddolen hon i dudalen SilverCloud ar wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

I gofrestru ar gyfer SilverCloud trwy hunan-atgyfeiriad, dilynwch y ddolen hon i wefan SilverCloud.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.