Mae disgyblion o ysgol yn Abertawe wedi rhoi gwobr ariannol i Ysbyty Cefn Coed – ar ôl cynnal cyflwyniad am iechyd meddwl.
Roedd disgyblion Blwyddyn 7 Llwynfedw yn un o bedwar grŵp a gymerodd ran mewn cystadleuaeth a gynhaliwyd gan yr elusen First Give, a heriodd y rhai a gymerodd ran i roi cyflwyniad yn dadlau pam fod eu dewis elusen yn haeddu ennill y wobr ariannol.
Cysylltodd y grŵp ag ysbyty Abertawe i ddysgu mwy am eu gwasanaeth adsefydlu ac adfer a rhoi eu cyflwyniad a’u gwelodd yn ennill y wobr ariannol o £1,000.
Yn gyfnewid am hyn, ymwelodd staff Cefn Coed â'r ysgol i ddosbarthu nwyddau a thystysgrif. Fe wnaeth chwaraewr Cymru a’r Llewod, Adam Beard, cyn-ddisgybl o Gellifedw, hefyd anfon neges fideo i’w llongyfarch ar eu cyflawniad.
Dywedodd Carol Taylor, cydlynydd sgiliau galwedigaethol yr ysgol: “Mae cymryd rhan ym mhrosiect First Give wedi rhoi cyfle i ddisgyblion Ysgol Gyfun Gellifedw godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a materion eraill sy'n bwysig i'n cymuned.
“Roedd disgyblion yn angerddol am helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl yn Abertawe ac yn falch o drosglwyddo’r siec o £1000 i elusen bwrdd iechyd Bae Abertawe i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.