Yn gyntaf, hoffem gymryd y cyfle i gynnig ein hymddiheuriadau diffuant i Mrs W a'i theulu am y trallod a gawsant, ac i gyfleu ein cydymdeimlad unwaith eto am eu colled drist iawn.
Rydym wedi derbyn canfyddiadau'r Ombwdsmon ac wedi cytuno i roi'r argymhellion ar waith yn llawn.
Mae cyfrif Mrs W o'u profiad yn sobreiddiol, ac mae'n amlwg bod yno feysydd ble y gallwyd gwella'r gofal a ddarparwyd gennym yn sylweddol.
Mae'n amlwg na chafodd y cwpl gefnogaeth lawn yn ystod dirywiad Mr W, ac rydym yn hynod o edifeiriol am hynny. Mae'n disgyn yn sylweddol is na safon y gofal yr ydym yn disgwyl i'n holl gleifion ei dderbyn.
Mae'r ddau fwrdd iechyd wedi cynnal adolygiad llawn o ddigwyddiadau i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i wella'r arferion i atal hyn rhag digwydd eto.
Yn unol â'r argymhellion, rydym yn cymryd camau i sicrhau bod cleifion â mathau o'r fath o ganser yn cael mynediad at asesiad maethol, ac at gymorth dietegol a seicogymdeithasol arbenigol.
Bydd clinigwyr yn y gwasanaeth yn cael eu hatgoffa o'u rhwymedigaethau i gael trafodaethau gonest gyda chleifion am eu triniaeth a'u canlyniadau.
Darperir hyfforddiant hefyd, gan gwmpasu sgiliau cyfathrebu uwch, a'r angen i gynnwys cleifion yn eu gofal eu hunain.
Yn ogystal, darperir cefnogaeth i'r nyrs arbenigol i sicrhau bod pob sgwrs â chleifion yn cael ei chofnodi yn eu nodiadau meddygol.
Rydym hefyd yn trefnu hyfforddiant staff i sicrhau bod hawliau dynol bob amser yn cael eu hystyried wrth ddarparu gofal i gleifion, a phan fydd cleifion neu aelodau o'r teulu'n codi pryderon am y gofal a'r driniaeth a ddarperir.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.