Mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality yn cefnogi ymgyrch Cwtsh Clos Elusen Iechyd Abertawe drwy gyfrannu 30 o leoedd codi arian yn 'Hanner Marathon Principality Caerdydd' eleni.
Bydd arian a godir gan y 30 rhedwr yn mynd tuag at y targed o £160,000 i adnewyddu’r pum tŷ – Cwtsh Clos – lle gall rhieni babanod cynamserol neu sâl iawn aros ar safle Ysbyty Singleton i fod yn agos atynt.
Mae ein Huned Gofal Dwys Newyddenedigol (neu NICU) yn Ysbyty Singleton yn gofalu am bron i 500 o fabanod y flwyddyn. Daw teuluoedd yma o bob rhan o dde Cymru, nid Bae Abertawe yn unig, gyda llawer yn byw oriau i ffwrdd mewn car a hyd yn oed yn hirach ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Yn y llun o'r chwith i'r dde: NICU staff nurses Vyshnavi Konduru, Siobhan Williams, Rhianne Perriam and Kaleigh Thomas, outside the home with Principality Building Society Swansea Branch Manager Simon Hole, and staff member Stephanie Ginn.
Er mwyn helpu i leddfu’r baich mae tai dwy ystafell wely Cwtsh Clos yn cynnig dewis arall am ddim i deuluoedd yn hytrach na wynebu teithiau hir a dirdynnol yn ôl ac ymlaen neu boeni am y llety drud mewn gwesty.
Wedi’u defnyddio’n helaeth dros y blynyddoedd, mae’r pum tŷ bellach mewn gwir angen eu gweddnewid – yn enwedig y tu mewn iddynt – i sicrhau y gallant barhau i gynnig cartref-o-gartref cynnes a chroesawgar i rieni yn ystod y cyfnod anodd hwn.
O ganlyniad rydym wedi lansio ein hymgyrch Cwtsh Clos newydd yn ddiweddar - a hyrwyddir gan y cerddor a'r darlledwr Mal Pope - gyda'r nod o godi £160,000 i adnewyddu'r cartrefi.
Mae’r 30 lle marathon eisoes wedi’u bachu gan wirfoddolwyr sy’n barod i herio’r digwyddiad 13.1 milltir, a gynhelir ym mhrifddinas Cymru ar ddydd Sul, 6ed Hydref, er mwyn codi arian at yr achos.
Dywedodd Simon Hole, rheolwr cangen Principality yn Abertawe: “Rydym yn falch iawn o allu cefnogi adnewyddu Cwtsh Clos drwy’r gofodau Marathon hyn.
“Rydym yn gobeithio y byddant yn helpu i godi dros £10,000 ar gyfer y prosiect, a fydd yn gweld y tai yn dod yn gartref oddi cartref i’r teuluoedd ar adeg mor anodd.
“Fel cymdeithas adeiladu, rydyn ni’n gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod gan bawb le i’w alw’n gartref, ac er mai dros dro yw’r rhain, maen nhw’n darparu lle hanfodol i bobl pan maen nhw eu hangen fwyaf.
“Rydym yn falch o allu rhoi help llaw i’w gwneud yn gartrefol.”
Mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality hefyd yn noddi gwobrau staff mewnol y bwrdd iechyd, sef y Byw Ein Gwerthoedd, neu wobrau BEG.
Dywedodd Lewis Bradley, rheolwr cymorth Elusen Iechyd Bae Abertawe: “Ar ôl cyfarfod â Chymdeithas Adeiladu’r Principality am y tro cyntaf yng ngwobrau BEG roeddem yn wirioneddol awyddus i gydweithio ar ymgyrch a oedd yn wirioneddol yn golygu llawer yn Ne Cymru – roedd Cwtsh Clos yn gyfle perffaith.
“Ni allwn ddiolch digon iddynt am roi 30 o leoedd i ni ar gyfer Hanner Marathon Principality Caerdydd i annog ein staff a’r gymuned i godi arian hanfodol ar gyfer adnewyddu’r llety ar gyfer rhieni babanod yn yr NICU yn Ysbyty Singleton.
“Mae dros 460 o deuluoedd wedi defnyddio’r llety ers agor, ac mae’r cyfle hwn yn ein galluogi i foderneiddio Cwtsh Clos ac yn wir yn rhoi’r llety gorau posibl i deuluoedd sy’n wynebu ansicrwydd.”
Croesawodd nyrs staff NICU, Kaleigh Thomas, y cymorth codi arian.
Meddai: “Mae’n hael iawn o Gymdeithas Adeiladu’r Principality i gefnogi ein hymgyrch.
“Mae’r tai yn blino braidd nawr ac mae angen eu gwneud ychydig yn fwy cartrefol.
“Bydd yr arian a godir yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i’r teuluoedd sy’n gwneud defnydd o lety Cwtsh Clos.
“Mae llawer o’n teuluoedd yn dod o bell i ffwrdd ac mae gallu aros yma yn amlwg yn golygu y gallant fod gyda’u babanod.”
Os hoffech roi rhodd ar-lein i Cwtsh Clos, gallwch wneud hynny drwy glicio yma.
I wneud cyfraniad gan ddefnyddio'ch ffôn, tecstiwch 'Donate Swanseabayhealth homes' i 88802.
Os hoffech chi godi arian i ni eich hun, neu gynnal digwyddiad codi arian, ewch i'n tudalen JustGiving ar gyfer Cwtsh Clos yma , lle cewch ragor o wybodaeth.
Gallwch hefyd ymweld â’n tudalen we Cwtsh Clos i gael rhagor o wybodaeth am y ganolfan NICU a’r apêl codi arian.
Diolch am eich cefnogaeth!
Oes gennych chi ddiddordeb mewn codi arian i gefnogi gwasanaethau'r GIG yn Abertawe a Castell-nedd Port Talbot? Oeddech chi'n gwybod bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol bae Abertawe ei elusen codi arian ei hun?
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.