Efallai eich bod yn ymwybodol o'r newyddion bod naw achos bellach o'r Coronafeirws COVID-19 yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, o ardaloedd awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
Mae gan holl gleifion y GIG hawl i gyfrinachedd cleifion, felly ni allwn ddarparu unrhyw fanylion pellach am yr unigolion hyn.
Fodd bynnag, rydym am roi sicrwydd bod cleifion â haint COVID-19 yn cael eu rheoli'n ddiogel mewn ardal sy'n glinigol briodol.
Nid oes angen poeni am ymweld ag unrhyw un o'n hysbytai, sydd yn agored fel arfer. Parhewch i gael mynediad at ein gofal a'n gwasanaethau fel arfer, gan gynnwys apwyntiadau, triniaethau neu ofal brys.
Roeddem yn llwyr ddisgwyl cynnydd yn nifer yr achosion cadarnhaol ac rydym yn cynllunio ac yn paratoi ar gyfer hyn.
Fel rhan o'n hymateb i'r achosion o COVID-19 rydym wedi sefydlu canolfan brofi coronafeirws gyrru drwodd i helpu i amddiffyn iechyd ein cymunedau.
Dim ond trwy drefniant ac apwyntiad ymlaen llaw yn unig y gellir cyrchu'r ganolfan hon, sydd wedi'i lleoli ychydig oddi ar yr M4 ar dir sy'n eiddo i Gyngor Castell-nedd Port Talbot, fel arfer trwy'r gwasanaeth 111. PEIDIWCH â throi i fyny heb apwyntiad, gan na fyddwch yn cael eich gweld.
Gwahoddir pobl sydd ag apwyntiad i yrru yno a bydd staff yn cymryd swabiau mewn dillad amddiffynnol, tra bydd y cleifion yn aros yn eu cerbyd.
Dywedodd Keith Reid, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bae Abertawe:
“Mae’r galw am brofi pobl am COVID-19 yn tyfu, ac mae’r uned yrru drwodd newydd hon yn darparu ffordd gyfleus a diogel i gynnig profion mewn modd amserol, ac mae’n gwneud y defnydd gorau o’n staff gweithgar.”
Gellir dal i brofi pobl nad ydyn nhw'n gyrru, neu nad oes ganddyn nhw gar, yn eu cartref eu hunain.
Sylwch fod yr uned brofi yn hygyrch trwy apwyntiad yn unig. Os ydych chi'n poeni y gallai fod gennych COVID-19, mae gwiriwr symptomau ar-lein bellach ar gael.
Peidiwch â mynd i'ch meddygfa, Adran Argyfwng Ysbyty Treforys (damweiniau ac achosion brys) neu'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
Mae hylendid rhagorol yn bwysig iawn, ac yn un o'r ffyrdd gorau o amddiffyn eich hunain rhag heintiau, felly golchwch eich dwylo'n drylwyr ac yn rheolaidd. Hefyd, defnyddiwch hances ar gyfer symptomau annwyd a math ffliw.
I gael mwy o wybodaeth a chyngor am COVID-19, gweler tudalen we Coronafeirws Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.