O heddiw (1 Ebrill 2026) ymlaen, bydd GIG Cymru yn gweithredu newidiadau i'r ffordd yr ymchwilir i bryderon ledled Cymru.
Un o'r newidiadau allweddol sy'n cael eu cyflwyno yw'r canllawiau statudol newydd Gwrando ar Bobl, sy'n disodli'r canllawiau Gweithio i Wella presennol.
Mae'r newidiadau hyn wedi'u cynllunio i'w gwneud hi'n haws ac yn gyflymach i gleifion, teuluoedd a gofalwyr godi pryderon a/neu rannu eu profiad am ofal y GIG.
Mae'r dull newydd hwn yn rhan o ymrwymiad cenedlaethol i wella agwedd agored, tosturi a dysgu ar draws gwasanaethau iechyd yng Nghymru, a chyflwyno prosesau cliriach a gwell cymorth i unrhyw un sy'n dymuno siarad am eu gofal.
Beth fydd yn newid?
Mae'r canllawiau Gwrando ar Bobl newydd yn cryfhau ein hymrwymiad i fod yn agored, yn dosturiol ac i ymateb yn amserol. Mae'r newidiadau allweddol yn cynnwys:
· Cynnig gorfodol o sesiwn gwrando gweithredol Bellach, bydd angen cynnig sgwrs wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar fideo ar ôl nodi pob pryder, sy’n sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu clywed cyn gynted â phosibl.
· Cam datrys cynnar newydd Bydd cyfnod pwrpasol o 10 diwrnod gwaith yn galluogi datrysiad cyflym a thosturiol lle bo'n briodol.
· Mwy o dryloywder a bod yn fwy agored Rhwymedigaethau cryfach o ran ymddiheuro ar unwaith, tryloywder a chyfathrebu clir pan fydd niwed yn digwydd.
· Amserlenni a safonau cyfathrebu clir Rhaid nodi pryderon o fewn pum niwrnod gwaith, a rhaid i lythyrau canlyniad ddefnyddio iaith glir a bod yn hygyrch.
· Trothwy iawndal ariannol uwch Bydd yr uchafswm iawndal a fydd ar gael heb ymyrraeth gan lys yn codi o £25,000 i £50,000.
Mae gan bawb yr hawl i godi pryder am ofal y GIG, a chynigir cymorth o'r cychwyn cyntaf. Mae hyn yn cynnwys: · Mynediad at eiriolaeth (gan gynnwys trwy Llais, corff llais y dinesydd statudol ac annibynnol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru)
· Cymorth cyfathrebu ac addasiadau rhesymol
· Cymorth i bobl ag anghenion iaith, anableddau neu sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol
Gellir codi pryderon gydag unrhyw aelod o staff, yn ysgrifenedig neu ar lafar.
Dywedodd Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru: “Rwy’n falch o gyflwyno Gwrando ar Bobl, dull cenedlaethol newydd Cymru o ymdrin â phryderon, cwynion, digwyddiadau ac iawndal y GIG. Mae'r canllawiau wedi'u llunio gydag un pwrpas mewn golwg: sef sicrhau bod pob unigolyn sy'n codi pryder am ei ofal yn cael ei drin ag urddas, tegwch, tosturi a pharch. Mae hyn yn rhoi ar waith yr egwyddor bod pob llais yn bwysig.
“Ledled Cymru, mae cleifion, teuluoedd a gofalwyr wedi dweud wrthym y gall codi pryder fod yn frawychus. Dim ond ar adegau o ofid, ansicrwydd neu golled y mae llawer o bobl yn dod ymlaen. Mae eraill yn poeni na fyddan nhw’n cael eu cymryd o ddifrif, neu y gallai codi eu llais effeithio ar eu gofal yn y dyfodol.
“Hoffwn eich sicrhau bod codi pryder yn un o’r hawliau sydd gennych chi, ond mae hefyd yn rhan hanfodol o sut rydym yn gwneud ein GIG yn fwy diogel, yn decach ac yn well i bawb. Ni fyddwch chi’n cael eich trin yn wahanol am godi’ch llais. Yn hytrach, bydd eich llais yn ein helpu ni i wella'r gofal rydym yn ei ddarparu.”
Pam mae'r newidiadau hyn yn bwysig
Mae'r rheoliadau newydd hyn yn cryfhau’r ffordd y mae GIG Cymru yn dysgu o bryderon ac yn defnyddio adborth cleifion i wneud gwelliannau. Bydd gofyn i sefydliadau’r GIG ddangos sut maen nhw’n gweithredu ar y gwersi hynny i wneud gwasanaethau’n fwy diogel ac yn fwy ymatebol.
Mae rhagor o wybodaeth am y rheoliadau Gwrando ar Bobl, gan gynnwys canllawiau ar sut i godi pryder, ar gael yma: LINK TO LOCAL PAGE
Gwasanaeth Aros yn Iach
Os ydych chi'n glaf ar restr aros am driniaeth, neu'n adnabod rhywun sydd angen cefnogaeth tra bydd yn aros, gall y Gwasanaeth Aros yn Iach helpu. Mae'r tîm yn cynnig un pwynt cyswllt i roi cefnogaeth a chyngor ar reoli eich iechyd.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.