O heddiw (1 Ebrill 2026) ymlaen, bydd GIG Cymru yn gweithredu newidiadau i'r ffordd yr ymchwilir i bryderon ledled Cymru.
Un o'r newidiadau allweddol sy'n cael eu cyflwyno yw'r canllawiau statudol newydd Gwrando ar Bobl, sy'n disodli'r canllawiau Gweithio i Wella presennol.
Mae'r newidiadau hyn wedi'u cynllunio i'w gwneud hi'n haws ac yn gyflymach i gleifion, teuluoedd a gofalwyr godi pryderon a/neu rannu eu profiad am ofal y GIG.
Mae'r dull newydd hwn yn rhan o ymrwymiad cenedlaethol i wella agwedd agored, tosturi a dysgu ar draws gwasanaethau iechyd yng Nghymru, a chyflwyno prosesau cliriach a gwell cymorth i unrhyw un sy'n dymuno siarad am eu gofal.
Beth fydd yn newid?
Mae'r canllawiau Gwrando ar Bobl newydd yn cryfhau ein hymrwymiad i fod yn agored, yn dosturiol ac i ymateb yn amserol. Mae'r newidiadau allweddol yn cynnwys:
Mae gan bawb yr hawl i godi pryder am ofal y GIG, a chynigir cymorth o'r cychwyn cyntaf. Mae hyn yn cynnwys: · Mynediad at eiriolaeth (gan gynnwys trwy Llais, corff llais y dinesydd statudol ac annibynnol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru)
Gellir codi pryderon gydag unrhyw aelod o staff, yn ysgrifenedig neu ar lafar.
Dywedodd Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru: “Rwy’n falch o gyflwyno Gwrando ar Bobl, dull cenedlaethol newydd Cymru o ymdrin â phryderon, cwynion, digwyddiadau ac iawndal y GIG. Mae'r canllawiau wedi'u llunio gydag un pwrpas mewn golwg: sef sicrhau bod pob unigolyn sy'n codi pryder am ei ofal yn cael ei drin ag urddas, tegwch, tosturi a pharch. Mae hyn yn rhoi ar waith yr egwyddor bod pob llais yn bwysig.
“Ledled Cymru, mae cleifion, teuluoedd a gofalwyr wedi dweud wrthym y gall codi pryder fod yn frawychus. Dim ond ar adegau o ofid, ansicrwydd neu golled y mae llawer o bobl yn dod ymlaen. Mae eraill yn poeni na fyddan nhw’n cael eu cymryd o ddifrif, neu y gallai codi eu llais effeithio ar eu gofal yn y dyfodol.
“Hoffwn eich sicrhau bod codi pryder yn un o’r hawliau sydd gennych chi, ond mae hefyd yn rhan hanfodol o sut rydym yn gwneud ein GIG yn fwy diogel, yn decach ac yn well i bawb. Ni fyddwch chi’n cael eich trin yn wahanol am godi’ch llais. Yn hytrach, bydd eich llais yn ein helpu ni i wella'r gofal rydym yn ei ddarparu.”
Pam mae'r newidiadau hyn yn bwysig
Mae'r rheoliadau newydd hyn yn cryfhau’r ffordd y mae GIG Cymru yn dysgu o bryderon ac yn defnyddio adborth cleifion i wneud gwelliannau. Bydd gofyn i sefydliadau’r GIG ddangos sut maen nhw’n gweithredu ar y gwersi hynny i wneud gwasanaethau’n fwy diogel ac yn fwy ymatebol.
Gwasanaeth Aros yn Iach
Os ydych chi'n glaf ar restr aros am driniaeth, neu'n adnabod rhywun sydd angen cymorth tra byddant yn aros, gall y Gwasanaeth Aros yn Iach helpu. Mae'r tîm yn cynnig un pwynt cyswllt i roi cymorth a chyngor ar reoli eich iechyd, gan eich cyfeirio at wasanaethau priodol.
Dilynwch y ddolen hon i dudalen y Gwasanaeth Aros yn Iach am ragor o wybodaeth.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.