Neidio i'r prif gynnwy

Podiatreg

Delwedd o goesau ar felin draed.

Yn anffodus, oherwydd y sefyllfa bresennol, mae'r gwasanaeth Podiatreg Cerdded i Mewn wedi dod i ben hyd nes y clywir yn wahanol. Cysylltwch â’r adran ar 0300 300 0024 neu drwy e-bost SBU.Podiatry@wales.nhs.uk

Gwasanaethau podiatreg i gleifion newydd - mynediad uniongyrchol

Os oes angen cyngor arnoch ar gyfer unrhyw broblem sy'n gysylltiedig â thraed ac nad ydych yn glaf gyda'r adran ar hyn o bryd, cliciwch ar y ddolen isod a chwblhewch yr Holiadur Podiatreg a phwyswch cyflwyno.

Ewch yma i'r holiadur Podiatreg cleifion newydd. (I lenwi'r ffurflen yn Gymraeg, dewiswch yr opsiwn Cymraeg yn y gornel dde uchaf).

Os ydych chi'n cael unrhyw broblem yn cyrchu'r ffurflen, anfonwch e-bost atom yn: SBU.Podiatry@wales.nhs.uk. Mae'r cyfrif e-bost hwn yn cael ei fonitro o ddydd Llun i ddydd Gwener 8.30am-4.30pm (yn eithrio gwyliau banc).

Neu ffoniwch: 0300 300 0024

Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9:00am -12:00pm a 1:00pm i 3:30pm (yn eithrio gwyliau banc).

Sylwch nad yw'r adran podiatreg yn cynnig gwasanaeth torri ewinedd arferol. Dim ond pan fydd ewinedd yn annormal ac yn achosi problemau y mae cyngor gofal ewinedd arbenigol a thriniaeth glinigol ar gael.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.